Pwrpas y canllawiau iaith yw casglu cyngor ac argymhellion ar ysgrifennu Cymraeg cywir er lles cyfranwyr a golygyddion Wicipedia.
Crynhoir nodiadau a chynghorion sydd eisoes wedi eu trafod ar Wicipedia ac sydd o ddiddordeb parhaol. Mae hwn hefyd yn gyfle i’r rhai hynny sydd wedi astudio’r Gymraeg rannu eu gwybodaeth â’r rhai ohonom nad ydym wedi astudio'r Gymraeg.
Os cwyd cwestiwn ar fater o arfer iaith mae'r dudalen cymorth iaith ar gael i drafod y cwestiwn.
Gweler hefyd y dudalen ar arddull Wicipedia sy'n cynnwys argymhellion ar arddull Cymraeg addas at ddibenion Wicipedia.
Y system ugeiniau a ddefnyddir ar gyfer y trefnolion Cymraeg. Mae'r gramadegwyr a'r golygyddion at ei gilydd yn argymell ysgrifennu'r trefnolion yn llawn. Ond os am ddefnyddio byrfodd ar gyfer y trefnol yna defnyddir llythrennau diwethaf y rhan o'r rhif sy'n llai na chant, e.e. 131ain, sef yr unfed ar ddeg ar hugain wedi'r cant.
Byrfodd | Trefnol | Byrfodd | Trefnol |
---|---|---|---|
1af | cyntaf | 11eg | unfed ar ddeg |
2il | ail | 12fed | deuddegfed |
3ydd/3edd | trydydd/trydedd | 13eg | trydydd/trydedd ar ddeg |
4ydd/4edd | pedwerydd/pedwaredd | 14eg | pedwerydd/pedwaredd ar ddeg |
5ed | pumed | 15fed | pymthegfed |
6ed | chweched | 16eg | unfed ar bymtheg |
7fed | seithfed | 17eg | ail ar bymtheg |
8fed | wythfed | 18fed | deunawfed |
9fed | nawfed | 19eg/19fed | pedwerydd/pedwaredd ar bymtheg / un-deg-nawfed |
10fed | degfed | 20fed | ugeinfed |
37fed | tri-deg-seithfed | 50fed | hanner canfed |
157fed | cant pum-deg-seithfed | 160fed | cant-chwe-degfed |
1277fed | un-fil dau-gant saithdeg-seithfed | 1280fed | un fil dau gan wythfed |
1,000,000fed | miliynfed |
Sylwer nad oes ffurf gryno o'r amser gorffennol o'r ferf marw yn yr iaith safonol. Ni ellir dweud
Yn hytrach, dyweder,
Mae gan ddysgwyr dueddiad i gyfieithu brawddeg fel "John Smith was an author from Cardiff" yn llythrennol e.e. "John Smith oedd nofelydd o Gaerdydd", sy'n gwbl estron i'r Gymraeg. Yr hyn ddylid ei ddweud yw, "Nofelydd o Gaerdydd oedd John Smith" neu "Roedd John Smith yn nofelydd o Gaerdydd". Mae'r frawddeg gyntaf yn enghraifft o'r hyn a elwir yn frawddeg "bwysleisiol" (emphatic sentences) h..y., mae pwyslais ar air penodol. Ynddi, ar y gair 'nofelydd' mae'r pwyslais (gan fod y frawddeg yn pwysleisio mai nofelydd yr oedd). Gellid osgoi brawddegau pwysleisiol drwy ddefnyddio "roedd" yn y gorffennol.
Defnyddir yr arddodiad 'o' i gyfleu (ymhlith pethau eraill):
Ystyr yr ymadrodd 'brenin o Ffrainc' yn Saesneg yw a king from France.
Cyflëir y genidol (bod rhywbeth yn perthyn i rywbeth arall) trwy osod y ddau enw ochr yn ochr, e.e. cath Mari, sef y gath sy'n perthyn i Mari (the cat of Mary). Defnyddir y genidol mewn teitl i ddisgrifio bod rhywun yn frenin, dyweder, ar rhywle (king of somewhere), e.e. brenin Lloegr, Archesgob Caergaint.
Defnyddir y ffurfiau 'y brenin Arthur', 'yr Archesgob Williams', 'yr Arlywydd Bush' yn Gymraeg ar gyfer teitlau (lle ceir King Arthur, Archbishop Williams, President Bush yn Saesneg).
Weithiau mae angen rhoi disgrifiad manylach. Os oes angen mynegi enw a swyddogaeth a thiriogaeth yna defnyddir yr ymadrodd - enw, swyddogaeth + lle - yn Gymraeg, e.e. Elisabeth II, brenhines y DU; Bush, arlywydd UDA; Rowan Williams, archesgob Caergaint (lle ceir Queen Elizabeth II of the UK; President Bush of the USA; Archbishop Rowan Williams of Canterbury yn Saesneg).
Weithiau adnabyddir rhywun yn ôl y lle mae'n hanu ohono, e.e. William Williams Pantycelyn, Owain Glyndŵr, Catrin o'r Berain (neu Catrin o Ferain), Edward o Dŷ Efrog. Sylwer bod modd cynnwys y gair Tŷ pan fo amwyster ystyr – gallai Edward o Efrog olygu Edward sydd wedi dod o ddinas Efrog yn hytrach nag Edward sy'n perthyn i (Dŷ) Efrog (ond sylwer mai Andrew, Dug Efrog yw enw ail fab Elizabeth II).
Mae dwy ffordd o ddisgrifio cenedl yn Gymraeg; e.e. i gyfleu Welsh athletes gellir dweud:
Mae mantais i'r ail ddewis wrth ddisgrifio pobl sy'n dod o wlad ag enw diarth neu gymhleth megis St Kitts, Ynys Ascension, h.y. athletwyr o St Kitts, athletwyr o Ynys Ascension.
Gellir hefyd ddisgrifio athletwyr sy'n dod o Gymru fel 'athletwyr Cymru' wrth gyfeirio atynt i gyd fel un grŵp. Mae'r gystrawen hon yn addas ar gyfer teitlau categorïau.
Dylid defnyddio'r gair 'Cymreig', 'Seisnig', ayb i ddisgrifio cenedligrwydd (yn perthyn i Gymru neu i genedl y Cymry) heblaw am yn achos iaith a phobl, e.e. 'gwisg Gymreig', 'y wasg Gymreig' (y wasg sy'n delio â materion Cymreig, trwy gyfrwng y Saesneg neu'r Gymraeg).
Felly mae 'pobl o dras Gymreig' yn gywir - mae Cymreig yn disgrifio 'tras'. Ond nid 'athletwr Cymreig' - 'athletwr o Gymro' yw'r ymadrodd naturiol Gymraeg. Gweler yr adran 'Enwau ar bobloedd' am ragor o wybodaeth.
Defnyddir 'Cymraeg', 'Ffrangeg', ayb i ddisgrifio iaith, e.e. 'nofel Ffrangeg' i ddisgrifio nofel a ysgrifennwyd yn y Ffrangeg, 'y wasg Gymraeg' i ddisgrifio'r wasg sy'n cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wicipedia:Canllawiau iaith, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.