ynglŷn  Wicipedia

Gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia a ysgrifennir yn gydweithredol gan ddarllenwyr y safle hwn.

Mae'r safle yn enghraifft o wici, sef math arbennig o wefan lle gall unrhyw un sydd â chysylltiad i'r rhyngrwyd olygu tudalennau trwy glicio ar y botwm golygu. Dechreuwyd y safle Saesneg yn 2001, ac mae'r fersiwn honno wedi tyfu i ddod yn un o'r safleoedd mwyaf poblogaidd ar y we. Nod y Wicipedia Cymraeg, a sefydlwyd yn 2003, yw efelychu'r llwyddiant hwnnw ac i ddod yn adnodd defnyddiol i siaradwyr Cymraeg ar y we.

Mae'n bwysig cofio fod gwahaniaethau sylfaenol yn bodoli rhwng Wicipedia a ffynonellau gwybodaeth traddodiadol. Gan fod yr hawl gan unrhyw un i olygu tudalennau, mae gwallau yn medru treiddio erthyglau, ac yn achlysurol ceir fandaliaeth neu wybodaeth anghywir mewn erthygl. Y ffordd orau i sicrhau bod y ffeithiau a gynhwysir mewn erthygl yn gywir yw edrych ar y ffynonellau a roddwyd ynddi; os gwelwch erthygl sydd angen ffynonellau, gallwch helpu drwy ychwanegu ffynonellau perthnasol.

Mae'r wybodaeth yn rhydd i bawb

Rhoddir cyfraniadau i Wicipedia yn hollol wirfoddol, o dan y trwyddedi Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported a GNU Free Documentation License (GFDL). Mae'r trwyddedi hyn yn defnyddio'r broses hawlfraint i sicrhau nad yw'r wybodaeth byth yn cael ei reoli gan unrhyw un person, fel ei bod ar gael am byth.

Felly, mae'r wybodaeth yn Wicipedia ar gael i unrhyw un ei chopïo, ei hail-ddosbarthu neu ei newid dros eu hunain, cyn belled â bod y fersiwn newydd yn rhoi'r un hawliau i eraill, a bod awduron yr erthygl wreiddiol yn derbyn cydnabyddiaeth (fel arfer mae cysylltiad nôl i'r erthygl wreiddiol yn gwneud y tro).

Tags:

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Siôn EirianTŷ unnosISO 3166-1Rhestr planhigion bwytadwyIâr ddŵrRhestr Papurau BroLove Kiya Aur Lag GayiYr EidalPeiriant WaybackHome AloneXHamsterThe Fighting StreakIn The Days of The Thundering HerdGramadeg Lingua Franca NovaMark StaceyNasareth (Galilea)2016AristotelesAmwythigLlawfeddygaethFleur de LysPussy RiotAmerikai AnzixKen OwensThe Trouble ShooterRaajneetiGwenallt Llwyd IfanCorsen (offeryn)Yr AlmaenCelfStrangerlandBeijingRhys ap ThomasHen BenillionNi LjugerSiôn JobbinsLlyn ClywedogSpring SilkwormsHywel DdaBrân bigfainGlasgwm, PowysCyfathrach Rywiol Fronnol7SacramentoGlöyn bywThe Salton SeaRobert RecordeMichelle ObamaBaskin-RobbinsIncwm sylfaenol cyffredinolEconomi gylcholBreuddwyd Macsen WledigAmaethyddiaethGo, Dog. Go! (cyfres teledu)The Wilderness TrailMamalTonari no TotoroGlawCattle KingBattles of Chief PontiacHTTPAlldafliad benywJohn Williams (Brynsiencyn)CurveCôd postPoner el Cuerpo, Sacar la VozDydd Iau DyrchafaelDave SnowdenMoscfaCyfieithiadau o'r Ffrangeg i'r Gymraeg🡆 More