eich Erthygl Gyntaf

Croeso i Wicipedia! Mae'r dudalen hon yn ganllaw i'r hyn y dylech ei wybod cyn creu'ch erthygl wyddoniadurol gyntaf.

Eglurir yr hyn y dylech ei wneud a pheidio gwneud, ac wedyn eglurir sut mae creu erthygl. Pan rydych yn barod i ysgrifennu, ystyriwch ddefnyddio'r Dewin Erthygl i'ch cynorthwyo fesul cam. Dyma rai awgrymiadau i'ch cychwyn arni:

  1. Awgrymwn eich bod yn cofrestru cyn creu erthygl newydd. Gall defnyddwyr anghofrestredig (anhysbys) holi am erthyglau newydd yn yr adran Erthyglau a geisir.
  2. Rhowch gynnig ar olygu erthyglau sydd eisoes yn bod i ymgyfarwyddo ag ysgrifennu a defnyddio iaith ychwanegiad sydd ar waith gyda Wicipedia.
  3. Chwiliwch Wicipedia yn gyntaf i wneud yn siŵr nad yw'r erthygl yn bodoli'n barod, efallai dan deitl arall gwahanol. Os yw'r erthygl yn bodoli'n barod, gallwch wneud golygiadau adeiladol ati os oes angen.
  4. Defnyddiwch gyfeiriadau er mwyn dangos bod bri gan bwnc eich erthygl dan sylw. Nid yw cyfeiriadau i flogiau, gwefannau personol a MySpace yn cyfrif fel arfer — mae angen ffynonellau dibynadwy arnom. Mae'n rhaid cymryd gofal i wneud yn siŵr bod ffynonellau gan bobl fyw -- dilëir erthyglau sydd ddim yn dynodi ffynonellau fel arfer.
  5. Ystyriwch ofyn am adborth. Gallwch ofyn am adborth ynghylch erthyglau yr ydych am eu creu mewn nifer o lefydd, gan gynnwys y dudalen sgwrs o WiciProsiect perthynol.
  6. Ystyriwch greu'r erthygl yn eich tudalen defnyddiwr yn gyntaf. Fel defnyddiwr cofrestredig, mae tudalen defnyddiwr eich hunan gennych. Gallwch ddechrau'r erthygl yno, ar is-dudalen; gallwch ei gwella, cymryd eich amser, gofyn i olygyddion eraill i weithio arno, a'i symud i'r Wicipedia "byw" unwaith mae'n barod yn unig. I greu'ch is-dudalen eich hunan, gweler yma. Pan fydd yr erthygl yn barod i'w "dangos", gallwch ei symud i mewn i'r prif Wicipedia. (Noder: mae gan y Dewin Erthygl ddewis i greu'r fath dudalennau drafft.)
    Cofiwch y caiff yr erthygl a grëir gennych ei dileu'n gyflym os nid yw'n dderbyniol. Mae'r gweinyddwyr yn edrych ar erthyglau sydd newydd gael eu creu.
    • Dilëir erthyglau sydd ddim yn cwrdd â chanllawiau amlygrwydd a ddim yn dynodi ffynonellau cyhoeddedig dibynadwy fel arfer.
    • Peidiwch â chreu tudalennau amdanoch chi eich hunan, eich cwmni, eich band neu'ch ffrindiau, neu dudalennau sy'n hysbysebu, neu draethodau personol neu erthyglau sy'n anaddas mewn gwyddoniadur.
    • Gan bwyll gyda'r canlynol: copïo pethau, cynnwys dadleuol, erthyglau hynod fyr ac erthyglau o ddiddordeb lleol.

Tags:

Wicipedia:Dewin erthygl

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Pafiliwn PontrhydfendigaidTŵr EiffelSimon BowerKal-onlineThe Heyday of The Insensitive BastardsPortiwgalegDafydd IwanVery Bad ThingsDeyrnas UnedigMetadataDiltiasemGwthfwrddFfibrosis systigRosettaYmestyniad y goesPont y BorthDavid MillarI am Number FourBanerThe Cat in the HatFlight of the Conchords1682WicipediaPaentioDydd LlunCyfarwyddwr ffilmGwyddoniaeth naturiolPidynThe Good GirlGwlad Iorddonen3 HydrefAnna VlasovaWikipediaAr Gyfer Heddiw'r BoreGemau Olympaidd ModernAsia2005MwstardLladinEgalitariaethThere's No Business Like Show BusinessHunaniaeth ddiwylliannolYsgol Gyfun Maes-yr-YrfaISBN (identifier)CaerloywRhyw llawEwcaryotTîm pêl-droed cenedlaethol merched AwstraliaMôr OkhotskGwyddoniadurTeulu ieithyddolJSTORBronLlain GazaGoogleYr Ail Ryfel BydShowdown in Little TokyoHomer SimpsonMy Pet DinosaurLlundainBlogEdward Morus JonesParamount PicturesDaearyddiaethTŷ pârHarriet BackerNiwmoniaMiri MawrJohn Frankland RigbyCynnyrch mewnwladol crynswthMacOS🡆 More