Saws sawrus ydy Caws pob, Welsh rarebit, Welsh rabbit, a gynhyrchir gyda caws wedi ei doddi a chynwysion eraill, a caiff ei weini'n boeth ar ben bara wedi ei dostio.
Mae'r enw'n tarddu o'r 18g gyda'r term Saesneg am Gymreig. Caiff Welsh rarebit ei gynhyrchu gan ddefnyddio Caws Cheddar fel rheol, sy'n wahanol i fondue Ewropeaidd sy'n draddodiadol yn dibynnu ar gaws o'r Swistir; gellir cysidro fod Welsh rarebit yn amrywiaeth lleol ar y traddodiad hwn.
“ | "Eighteenth-century English cookbooks reveal that it was then considered to be a luscious supper or tavern dish, based on the fine cheddar-type cheeses and the wheat breads […] . Surprisingly, it seems there was not only a Welsh Rabbit, but also an English Rabbit, an Irish and a Scotch Rabbit, but nary a rarebit." | ” |
Mae amryw o rysetiau gwahanol ar gyfer Welsh rarebit, sy'n cynnwys cwrw, mwstard, pupur cayenne neu paprika a Saws Swydd Gaerwrangon. Gellir hefyd cynhyrchu'r saws drwy gyfuno caws a mwstard i greu saws béchamel neu Mornay sauce). Mae rhai rysetiau ar gyfer Welsh rarebit wedi dod yn gyffredin yn llawlyfrau Escoffier, Saulnier ac eraill, sy'n tueddu i ddefnyddio'r sillafiad rarebit yn hytrach na rabbit (sy'n golygu cwningen yn Saesneg), er mwyn pwysleisio nad yw'r bwyd yn cynnwys cig. Gellir prynu'r saws wedi ei rewi gan Stouffer's mewn archfarchnadoedd yn yr Unol Daleithiau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Caws pob (Welsh rarebit), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.