Mae yna 383 o Wall Streets gwahanol yn y byd, ond mae'r stryd hanesyddol ym Manhattan Isaf, Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, yn yr Unol Daleithiau.
Rhed y stryd i'r dwyrain o Broadway i South Street ar yr Afon Ddwyreiniol, trwy ganol yr Ardal Ariannol hanesyddol. Dyma yw cartref cyntaf Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd; dros y blynyddoedd, mae'r enw Wall Street wedi ei ehangu i gynnwys y gymdogaeth daearyddol o'i hamgylch hefyd. Defnyddir "Wall Street" hefyd fel rhyw fath o dalfyrriad am y diwydiant ariannol Americanaidd, sydd wedi'i lleoli yn ardal Dinas Efrog Newydd. Mae nifer o gyfnewidfeydd stoc mawrion yr Unol Daleithiau a chyfnewidfeydd eraill wedi'u lleoli ar Wall Street ac yn yr Ardal Ariannol, gan gynnwys y NYSE, NASDAQ, AMEX, NYMEX, a NYBOT.
Enghraifft o'r canlynol | stryd |
---|---|
Rhanbarth | Manhattan |
Hyd | 1.1 cilometr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Wall Street, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.