Newyddiadurwr, cyflwynwydd a chynhyrchydd o Gymro oedd Vaughan Hughes (ganwyd 16 Tachwedd 1947– 6 Ionawr 2024).
Ganwyd ar Ynys Môn a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni.
Vaughan Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 16 Tachwedd 1947 Ynys Môn |
Bu farw | 6 Ionawr 2024 Pontypridd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio |
Cyflogwr | |
Plant | Heledd Fychan |
Bu'n newyddiadurwr yng Ngwynedd cyn mynd i fyd cynhyrchu a chyflwyno gyda HTV. Roedd yn un o ohebwyr y rhaglen newyddion Y Dydd. Yn yr 1980au roedd yn cyflwyno y rhaglen materion cyfoes Y Byd Yn Ei Le a'r rhaglen ddogfen Ar Olwg. Bu hefyd yn cyflwyno y rhaglen sgwrsio O Vaughan i Fynwy rhwng 1987 ac 1991. Fe gyflwynodd gyfresi ar Radio Cymru - Blewyn o Drwyn a'r rhaglen foreuol Heddiw.
Roedd yn gyd-sylfaenydd y cwmni teledu Ffilmiau'r Bont a bu'n cyd-olygu'r cylchgrawn Barn.
Yn 2012 cafodd ei ethol fel cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ynys Môn, gan gynrychioli ward Llanbedrgoch (Lligwy erbyn hyn) tan 2022.
Am gyfnod o 10 mlynedd bu'n gweithio yng Nghaerdydd. Roedd yn briod ag Angharad ac ei ferch yw'r gwleidydd Heledd Fychan.
Bu farw yn annisgwyl ar 6 Ionawr 2024 yn ei gartref ym Mhontypridd. Cynhaliwyd angladd cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor ddydd Gwener 26 Ionawr 2024 am 11:30 y bore.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth "Mae Vaughan yn gadael gwaddol sylweddol. Fel newyddiadurwr a darlledwr bu'n ddylanwadol ym myd materion cyfoes Cymreig am ddegawdau, a fel Cynghorydd Plaid Cymru ym Môn defnyddiodd ei brofiad helaeth ar lwyfanau cenedlaethol er budd ei fro a Chymru. Bydd colled fawr ar ei ôl."
Dywedodd Dr Dyfrig Jones, uwch ddarlithydd ffilm ym Mhrifysgol Bangor ei fod yn "golled anferth".
"Eithriadol o drist o glywed hyn," meddai. "Fe weithiais yn agos efo Vaughan yn Ffilmiau’r Bont ac yn Barn, ac mi gafodd ddylanwad anferth arna’i."
Dywedodd yr Aelod o Senedd Cymru, Sioned Williams ei fod yn "newyddion trist am un a gyfrannodd gymaint i’w genedl".
"Roedd Vaughan wastad mor gefnogol i fi fel un o gyfrannwyr Cylchgrawn Barn ac ro'n i’n mwynhau ein sgyrsiau difyr ar faes y Steddfod a chynhadleddau Plaid Cymru."
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Vaughan Hughes, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.