Roedd Undeb Credyd Plaid Cymru (enw swyddogol llawn, Undeb Credyd Plaid Cymru Credit Union) yn undeb credyd yn annibynnol yn ariannol ond yn gefnogol o Blaid Cymru ac yn gwneud cyfraniadau i'r Blaid drwy hysbysebu a nawdd achlysurol.
Sefydlwyd yr undeb yn swyddogol yn 1986. Sefydlwyd ar gyfer aelodau Plaid Cymru ac aelodau o'u teulu agos.
Enghraifft o'r canlynol | Undeb credyd |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1986 |
Pencadlys | Caerdydd |
Daeth yr Undeb Credyd i ben yn 2018. Gydag hynny, bu mewn trafodaethau gyda sawl undeb credyd arall i drosglwyddo'r cyfrifon. Dewiswyd Smart Money Cymru sydd a'i phencadlys yng Nghaerffili gan ei bod ddeniadol i'r undeb credyd llai, yn enwedig ei symudiad i gynnig mwy o wasanaethau digidol.
Lleolwyd yr Undeb Credyd mewn sawl gwahanol man yn ystod ei chyfnod, gan gynnwys Tŷ'r Cymry yn Heol Gordon, Y Rhath, Caerdydd ac o fewn swyddfa ganolog Plaid Cymru pan bu yn Rhodfa'r Parc yn y cyfnod wedi Refferendwm datganoli i Gymru, 1997.
Llywydd anrhydeddus yr Undeb Credyd oedd Dafydd Wigley.
Ymysg y swyddogion blaenllaw eraill oedd; Alan Jobbins, Stuart Fisher, Glyn Erasmus, Jim Criddle, a Malcolm Parker.
Roedd gan yr Undeb Credyd gylchlythyr i'w haelodau o'r enw Nerth.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Undeb Credyd Plaid Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.