Tywysogaeth Catalwnia (Catalaneg: Principat de Catalunya; Sbaeneg: Principado de Cataluña) yw tiriogaeth hanesyddol Catalwnia, y rhan fwyaf yn yr hyn sy'n awr yn ogledd-ddwyrain Sbaen ond gyda rhan hefyd yn ne Ffrainc.
Wedi diwedd y cyfnod Rhufeinig, gorchfygwyd y tiriogaethau hyn gan y Fisigothiaid, yna am gyfnod gan fyddinoedd Mwslimiaid al-Andalus. Wedi i'r Mwslimiaid gael eu gorchfygu gan Siarl Martel ym Mrwydr Tours yn 732, concrwyd y tiriogaethau yng ngogledd Catalwnia gan y Ffranciaid, a ffurfiodd Siarlymaen y Marca Hispanica, nifer o wladwriaethau bychain neu siroedd rhwng ymerodraeth y Ffranciaid ac al-Andalus. Roedd y rhain dan reolaeth Cownt Barcelona. Yn 987, gwrthododd Cownt Barcelona gydnabod y frenhinllin newydd ym mherson Hugh Capet, brenin Ffrainc, a daeth y Marca yn annibynnol ar y Ffranciaid i bob pwrpas. Yn 1137, daeth y dywysogaeth yn rhan o Goron Aragon, pan briododd Ramon Berenguer IV, Cownt Barcelona, a Petronila o Aragón.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tywysogaeth Catalwnia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.