Tybaco

Ceir Tybaco (neu baco) o ddail planhigion yn y genws Nicotiana o'r teulu Solanaceae, a'r term cyffredinol am unrhyw gynnyrch a baratoir o ddail y planhigion hyn wedi'u sychu.

Fe'i hadwaenir hefyd fel myglys. Fe'i defnyddir yn bennaf i'w ysmygu, ar ffurf sigaret, sigâr neu bibell, ond gellir ei gnoi hefyd. Mae pob ffurf ohono'n cynnwys nicotîn, a thros amser mae'r defnyddiwr yn debygol o fagu dibyniaeth arno. Ceir dros 70 rhywogaeth o dybaco, ond y prif gnwd masnachol yw N. tabacum. Mae'r amrywiad cryfach N. rustica hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn rhai gwledydd.

Tybaco
Tybaco
Mathcynnyrch, symbylydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdail baco Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tybaco
Dail baco wedi eu sychu a'u torri'n ddarnau i'w hysmygu mewn pibell

Deillia tybaco o gyfandir America, ac ymddengys ei fod yn cael ei ddefnyddio yno cyn gynhared a 3000 CC. Roedd iddo le pwysig yn niwylliant llawer o frodorion America. Daw'r gair trwy'r Sbaeneg tabaco, efallai o'r iaith Arawaceg frodorol. Lledaenodd yr arfer o ysmygu trwy'r byd yn ddiweddarach; Bhutan yw'r unig wlad lle na chaniateir gwerthu tybaco.

Tybaco
Odyn sychu tybaco yn Myrtleford, Victoria, Awstralia, 2018. Adeiladwyd yr odyn hon ym 1957, a symudodd i Barc Rotari yn 2000. Gwnaed odynau o'r strwythur hwn o'r 1930au cynnar hyd at ddiwedd y 1960au.

Defnyddir dail tybaco sych yn bennaf ar gyfer ysmygu mewn sigaréts a sigars, yn ogystal â phibellau a shishas. Gellir eu bwyta hefyd fel snisin, cnoi tybaco, trochi tybaco a snws.

Mae tybaco yn cynnwys y symbylydd nicotin alcaloid hynod gaethiwus yn ogystal ag alcaloidau harmala. Mae defnyddio tybaco yn achos neu'n ffactor risg ar gyfer llawer o afiechydon marwol, yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar y galon, yr afu a'r ysgyfaint, yn ogystal â sawl canser. Yn 2008, enwodd Cyfundrefn Iechyd y Byd y defnydd o dybaco fel y prif achoswr marwolaeth (a ellir ei atal).

Geirdarddiad

Mae'r gair Cymraeg tybaco'n tarddu o'r gair Sbaeneg "tabaco"; baco a ddywedir ar lafar gan fwyaf. Credir bellach fod y gair tybaco'n tarddu, yn rhannol o leiaf, o Taíno, iaith Arawacaidd y Caribî. Yn Taíno, dywedir ei fod yn golygu naill ai rholyn o ddail tybaco (yn ôl Bartolomé de las Casas, 1552), neu tabago, sef pibell siâp L a ddefnyddir ar gyfer mewn-anadlu mwg tybaco (yn ôl Oviedo), gyda'r dail eu hunain yn cael eu galw'n cohiba).

Ond ceir posibilrwydd arall: trwy gyd-ddigwyddiad, efallai, defnyddiwyd geiriau tebyg mewn Sbaeneg, Portiwgaleg ac Eidaleg o 1410 ar gyfer rhai perlysiau meddyginiaethol. Mae'n debyg bod y rhain yn deillio o'r Arabeg طُبّاق ṭubbāq (hefyd طُباق ṭubāq ), gair sy'n dyddio o'r 9g yn ôl pob sôn, yn cyfeirio at wahanol berlysiau.

Hanes

Tybaco 
William Michael Harnett (Americanaidd, 1848-1892), Still Life with Three Castles Tobacco, 1880, Amgueddfa Brooklyn.

Defnydd traddodiadol

Tybaco 
Y darlun cynharaf o berson Ewropeaidd yn ysmygu, o Tobacco gan Anthony Chute, 1595.

Mae tybaco wedi cael ei ddefnyddio ers amser maith yn yr Americas, gyda'r cynaeafu cyntaf ym Mecsico yn dyddio'n ôl i 1400-1000 CC, a llawer o lwythau Brodorol America yn ei dyfu ac yn defnyddio tybaco cyn hynny. Yn hanesyddol, mae pobl o ddiwylliannau Northeast Woodlands (ardal llwythi'r Irocwo a'r Algoncwo wedi cario tybaco mewn codenni fel eitem masnachu hawdd ei defnyddio. Roedd yn cael ei smygu'n gymdeithasol ac yn seremoniol, megis i selio cytundeb heddwch neu gytundeb masnach rhwng y brodorion. Mewn rhai diwylliannau Brodorol, mae tybaco yn cael ei weld fel anrheg gan y Creawdwr (duw), gyda mwg tybaco seremonïol yn cario meddyliau a gweddïau person i'r Creawdwr.

Poblogeiddio

Yn dilyn dyfodiad y gorchfygwyr gwyn Ewropeaidd cyntaf i'r Americas, daeth tybaco'n fwyfwy poblogaidd fel eitem fasnach. Hernández de Boncalo, croniclwr Sbaenaidd yr Indiaid, oedd yr Ewropead cyntaf i ddod â hadau baco i'r Hen Fyd, a hynny yn 1559 yn dilyn gorchmynion Brenin Felipe II, brenin Sbaen. Plannwyd yr hadau hyn ar gyrion Toledo, yn fwy penodol mewn ardal o'r enw "Los Cigarrales" a enwyd ar ôl pla parhaus y teulu o bryfed, cicadas (cigarras yn Sbaeneg).

Cyn datblygiad y mathau ysgafnach o faco Virginia a burley gwyn, roedd y mwg yn rhy gryf i'w anadlu. Roedd meintiau bach yn cael eu hysmygu ar y tro, gan ddefnyddio pibell fel y midwakh neu kiseru, neu bibellau dŵr newydd eu dyfeisio fel y bong neu'r hookah (gweler thuốc lào am barhad modern o'r arfer hwn). Daeth tybaco mor boblogaidd nes i wladfa Seisnig Jamestown ei ddefnyddio fel arian cyfred a dechrau ei allforio fel cnwd arian; dywedir yn aml mai tybaco a achubodd Virginia rhag fod yn ddim ond tir diffaith.

Cyfrannodd manteision honedig tybaco at ei lwyddiant hefyd. Tybiai'r seryddwr Thomas Harriot, a aeth gyda Syr Richard Grenville ar ei daith i Ynys Roanoke yn 1585, fod y planhigyn "yn agor y corff" fel bod cyrff y brodorion "yn nodedig o iach, yn wahanol i ni yn Lloegr gyda'n afiechydon enbyd, ac yn aml dan gystudd."

Daeth cynhyrchu baco ar gyfer ysmygu, cnoi, a snisin yn ddiwydiant mawr yn Ewrop a'i gwladfeydd, erbyn 1700.

Mae baco wedi bod yn gnwd arian parod mawr (cash crop) yng Nghiwba ac mewn rhannau eraill o'r Caribî ers y 18g. Mae sigars Ciwba yn fyd-enwog.

Ar ddiwedd y 19g, daeth sigaréts yn boblogaidd. Dyfeisiodd James Bonsack beiriant i awtomeiddio cynhyrchu sigaréts a gwelwyd twf aruthrol yn y diwydiant tybaco hyd at ddiwedd yr 20g pan gyhoeddwyd ymchwil fod baco'n creu afiechydon megis cansar.

Canrif 21

Yn dilyn cyhoeddiadau gwyddonol canol yr 20g, cafodd tybaco ei gondemnio fel perygl i iechyd, ac yn y pen draw fe'i cydnabuwyd ei fod yn achosi canser, yn ogystal â chlefydau anadlol a chylchrediadaethol eraill. Yn yr Unol Daleithiau, arweiniodd hyn at y Prif Gytundeb Setliad Tybaco (Tobacco Master Settlement Agreement), a setlodd yr achosion cyfreithiol niferus gan daleithiau'r UD yn gyfnewid am gyfuniad o daliadau blynyddol i'r taleithiau a chyfyngiadau gwirfoddol ar hysbysebu a marchnata cynhyrchion tybaco. 

Erbyn y 21g, roedd llawer o ysmygwyr caeth yn dymuno rhoi'r gorau iddi, a gwelwyd datblygu cynhyrchion rhoi'r gorau i dybaco.

Yn 2003, mewn ymateb i'r twf yn y defnydd o dybaco mewn gwledydd sy'n datblygu, llwyddodd Sefydliad Iechyd y Byd i gasglu 168 o wledydd i lofnodi'r Confensiwn Fframwaith ar Reoli Tybaco. Bwriad y confensiwn oedd gwthio am ddeddfwriaeth a gorfodi effeithiol ym mhob gwlad i leihau effeithiau niweidiol tybaco.

Rhwng 2019 a 2021, roedd pryderon ynghylch mwy o risgiau iechyd COVID-19 oherwydd y defnydd o faco yn help i leihau'r nifer a oedd yn ysmygu. Credid fod y firws yn effeithio ysbygwyr yn fwy na phobl nad oeddent erioed wedi ysmygu baco.

Bioleg

Nicotiana

Tybaco 
Nicotin yw'r cyfansoddyn sy'n gyfrifol am natur gaethiwus (addictive) y defnydd o dybaco.
Tybaco 
Baco gwyllt (Nicotiana rustica) blodyn, dail, a blagur

Mae llawer o rywogaethau o dybaco yn y genws o berlysiau a elwir yn Nicotiana. Mae'n rhan o'r teulu'r mochlys (y codwarth neu'r cedowrach; y nightshades; Solanaceae) sy'n frodorol i Ogledd a De America, Awstralia, de orllewin Affrica, a De'r Môr Tawel.

Mae'r rhan fwyaf o fochlys yn cynnwys lefelau gwahanol o nicotin, gyda'u niwrotocsin pwerus i bryfed. Fodd bynnag, mae tybaco'n tueddu i gynnwys crynodiad llawer uwch o nicotin na'r lleill. Yn wahanol i lawer o rywogaethau o Solanaceae eraill, nid ydynt yn cynnwys alcaloidau tropan, sy'n aml yn wenwynig i bobl ac anifeiliaid eraill.

Cynhyrchu

Ffermio baco

Tybaco 
Planhigion tybaco'n tyfu mewn cae yn Pennsylvania .

Mae tybaco'n cael ei drin yn debyg i gynhyrchion amaethyddol eraill. Ar y dechrau, roedd hadau'n cael eu gwasgaru'n gyflym ar y pridd. Fodd bynnag, daeth ymosodiad cynyddol ar blanhigion ifanc gan chwilod chwain (Epitrix cucumeris neu E. pubescens ), a ddinistriodd hanner y cnydau baco yn yr Unol Daleithiau ym 1876. Erbyn 1890, cynhaliwyd arbrofion llwyddiannus lle gosodwyd y planhigyn mewn ffrâm wedi'i gorchuddio â ffabrig o gotwm tenau. Heddiw, mae hadau baco'n cael eu hau mewn fframiau oer neu welyau-poeth, gan fod eu heginiad yn cael ei sbarduno gan olau. Yn yr Unol Daleithiau, defnyddir y mwyn apatit i wrteithio baco, sy'n newynu'r planhigyn yn rhannol o nitrogen, a yn creu blas mwy dymunol.

Ar ôl i'r planhigion dyfu'n 20 cm (8 modfedd) maent yn cael eu trawsblannu i'r caeau. Roedd yn rhaid i ffermwyr aros am dywydd glawog i blannu. Mae twll yn cael ei greu yn y ddaear a phlennir ynddo'r planhigyn baco, gyda naill ai erfyn pren crwm neu gorn carw. Ar ôl gwneud dau dwll i'r dde a'r chwith, byddai'r plannwr yn symud ymlaen ddwy droedfedd, yn dewis planhigion o'i fag, ac yn ailadrodd y broses. Dyfeisiwyd planwyr tybaco mecanyddol amrywiol fel Bemis, New Idea Setter, a New Holland Transplanter ar ddiwedd y 19g a'r 20g i otomeiddio'r broses: gwneud y twll, ei ddyfrio, plannu'r planhigyn - i gyd mewn un symudiad.

Caiff baco'i gynaeafu'n flynyddol, a hynny mewn sawl ffordd. Yn y dull hynaf, sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw (2022), mae'r planhigyn cyfan yn cael ei gynaeafu ar unwaith trwy dorri'r coesyn ar y ddaear gyda chyllell dybaco; yna rhoddir pedwar i chwe phlanhigyn ar un ffon, a'i hongian mewn ysgubor i'w sychu. Yn y 19g, dechreuwyd cynaeafu tybaco trwy dynnu dail unigol oddi ar y coesyn wrth iddynt aeddfedu. Mae'r dail yn aeddfedu o'r ddaear i fyny, felly mae cae o dybaco a gynaeafir yn y modd hwn yn golygu cynhaeaf cyfresol o nifer o "primings", gan ddechrau gyda'r dail volado ger y ddaear, gan weithio i'r dail seco yng nghanol y planhigyn, a gorffen gyda'r dail ligero cryf ar frig y planhigyn. Cyn cynaeafu, rhaid tocio'r cnwd pan fydd y blodau pinc yn blodeuo. Mae tocio bob amser yn cyfeirio at dynnu'r blodyn baco cyn cynaeafu'r dail yn systematig. Wrth i'r chwyldro diwydiannol gydio, roedd y wagenni cynaeafu a ddefnyddiwyd i gludo dail yn cynnwys peiriant i glymu cortyn o amgylch y planhigion (tebyg i felar), offer a oedd yn defnyddio cortyn i gysylltu dail ar bolyn. Yn y cyfnod modern, mae caeau mawr yn cael eu cynaeafu'n fecanyddol, er bod brigo'r blodyn ac mewn rhai achosion mae tynnu dail anaeddfed yn dal i gael ei wneud â llaw.

Y prif gynhyrchwyr baco yn yr Unol Daleithiau yw Gogledd Carolina a Kentucky, gyda Tennessee, Virginia, Georgia, De Carolina a Pennsylvania yn dynn wrth eu sodlau.

Sychu

Tybaco 
Sgubor baco yn Simsbury, Connecticut a ddefnyddir ar gyfer sychu baco drwy ddefnyddio aer cynnes.
Tybaco 
Baco wedi'i sychu yn yr haul, Bastam, Iran

Mae sychu dail baco, a'r aeddfedu dilynol, yn caniatáu ocsidiad araf a diraddio carotenoidau araf. Mae hyn yn cynhyrchu rhai cyfansoddion defnyddiol yn y dail baco ac yn rhoi arogl (neu flas) tebyg i gae o wenith melys, ogla te, olew rhosyn, neu flas aromatig ffrwythol sy'n cyfrannu at "fwynder" y mwg. Mae starts yn cael ei drawsnewid yn siwgr, sy'n glycateiddio'r protein, ac yn ei ocsidio i mewn i gynhyrchion terfynol glyciad datblygedig (advanced glycation endproducts AGEs), proses o garameleiddio sydd hefyd yn ychwanegu blas. Mae anadlu mwg baco o'r AGEs hyn yn cyfrannu at atherosglerosis a chanser. Dibyna'r lefelau o AGE ar y dull sychu a ddefnyddir.

Gellir sychu baco trwy sawl dull, gan gynnwys:

  • Mae tybaco wedi'i sychu ag aer, lle mae'r baco'n cael ei hongian mewn ysguboriau sydd wedi'u hawyru'n dda dros gyfnod o bedair i wyth wythnos. Mae tybaco wedi'i awyru fel hyn yn isel mewn siwgr, sy'n rhoi blas ysgafn, ysgafn i'r mwg baco, ac yn uchel mewn nicotin. Rhoddir baco sigârs a byrli mewn ysguboriau aer 'tywyll'.
  • Rhoddir baco wedi'i sychu gan dân i hongian mewn ysguboriau mawr lle llosgir pren caled yn olosg, naill ai'n barhaus neu'n ysbeidiol, dros gyfnos o dridiau i ddeg wythnos, yn dibynnu ar y broses a'r math o faco. Drwy'r broses hon, ceir baco sy'n isel mewn siwgr ac yn uchel mewn nicotin. Mae baco pibelll, baco cnoi, a baco snisin wedi'u sychu â thân.
  • Sychu drwy ffliw. Yn wreiddiol roedd tybaco wedi'u sychu a gwres canol / ffliw lle gosodwyd y baco ar ffyn baco a oedd yn cael eu hongian oddi ar bolion haen mewn ysguboriau halltu neu odynau, gyda'r tân y tu allan a'i wres yn cael ei bibellu i fewn ac o amgylch yr ysgubor. Yn gyffredinol, mae'r broses yn cymryd tua wythnos. ac mae'r dull hwn yn cynhyrchu baco sigaréts sy'n uchel mewn siwgr a lefelau canolig i uchel o nicotin. Mae'r rhan fwyaf o sigaréts yn cynnwys tybaco wedi'i halltu â ffliw, sy'n cynhyrchu mwg mwynach a haws ei anadlu. Amcangyfrifir bod 1 goeden yn cael ei thorri i driniaeth ffliw bob 300 sigarét, gan arwain at ganlyniadau amgylcheddol difrifol.
  • Sychir baco hefyd yn yr haul heb ei gysgodi rhag yr haul. Defnyddir y dull hwn yn Nhwrci, Gwlad Groeg, a gwledydd Môr y Canoldir eraill i gynhyrchu baco dwyreiniol. Mae baco wedi'i sychu fel hyn yn isel mewn siwgr a nicotin ac fe'i defnyddir mewn sigaréts.

Mae rhai dail baco'n mynd trwy ail broses o sychu, a elwir yn eplesu neu'n chwysu. Mae Cavendish yn cael ei eplesu wedi'i wasgu mewn toddiant casin sy'n cynnwys siwgr a / neu gyflasyn.

Cynhyrchu byd-eang

Tybaco 
Cynhyrchu baco, 2018 yn ôl gwlad

Tueddiadau

Cynyddodd cynhyrchiant dail tybaco 40% rhwng 1971, pan gynhyrchwyd 4.2 miliwn o dunelli o ddail, a 1997, pan gynhyrchwyd 5.9 miliwn o dunelli o ddail. Yn ôl Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, roedd disgwyl i gynhyrchiant dail tybaco gyrraedd 7.1 miliwn o dunelli erbyn 2010. Mae'r nifer hwn ychydig yn is na'r cynhyrchiad uchaf erioed ym 1992, pan gynhyrchwyd 7.5 miliwn o dunelli o ddail baco. Roedd y twf cynhyrchu bron yn gyfan gwbl o ganlyniad i gynhyrchiant cynyddol gan wledydd datblygol, lle cynyddodd y cynhyrchiant 128%. Yn ystod yr un amser, gostyngodd cynhyrchiant mewn gwledydd datblygedig. Cynhyrchodd Tsieina mwy o faco, ffactor unigol mwyaf yn y cynnydd mewn cynhyrchiant bydeang. Cynyddodd cyfran Tsieina (o farchnad y byd) 17% ym 1971 ac i 47% ym 1997. Gellir esbonio'r twf hwn yn rhannol gan fodolaeth tariff mewnforio isel ar faco tramor sy'n dod i mewn i Tsieina. Er bod y tariff hwn wedi'i ostwng o 66% yn 1999 i 10% yn 2004, mae'n dal i fod wedi arwain at sigaréts lleol, Tsieineaidd sy'n cael eu ffafrio dros sigaréts tramor oherwydd eu cost is.

Prif gynhyrchwyr baco, 2017
Gwlad Cynnyrch (mewn tunnell) Nodyn
Tybaco  Gweriniaeth Pobl Tsieina 2,391,000
Tybaco  Brasil 880,881
Tybaco  India 799,960 Amcang.
Tybaco  United States 322,120
Tybaco  Simbabwe 181,643 Amcang.
Tybaco  Indonesia 152,319
Tybaco  Sambia 131,509 Amcang.
Tybaco  Pacistan 117,750 Amcang.
Tybaco  Yr Ariannin 117,154
Tybaco  Tansanïa 104,471 Amcang.
 Byd 6,501,646 Cyfan.
Dim nodyn = ffigwr swyddogol, Amcang. = Amcangyfrif FAO, Cyfan. = Cyfanred (gall gynnwys amcangyfrif swyddogol, lledswyddogol neu amcangyfrif).

Bob blwyddyn, mae tua 6.7 miliwn o dunelli o faco'n cael eu cynhyrchu ledled y byd. Y prif gynhyrchwyr baco yw Tsieina (39.6%), India (8.3%), Brasil (7.0%) a'r Unol Daleithiau (4.6%).

Darllen pellach

Cyfeiriadau

Tags:

Tybaco GeirdarddiadTybaco HanesTybaco BiolegTybaco CynhyrchuTybaco Darllen pellachTybaco CyfeiriadauTybacoBacoBaco gwylltDeilenGenwsNicotînRhywogaethSigarétTeulu (bioleg)Ysmygu

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

After Porn Ends 2Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023Nella città perduta di SarzanaCronfa ClaerwenBeijing2016Corsen (offeryn)James Francis Edward StuartRajkanyaSchool For SeductionAlldafliad benyw1960auAlban HefinYswiriantCodiadDiodElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigAsiaGramadegBermudaIfan Huw DafyddSaesonAwstralia (cyfandir)TwitterFfilm llawn cyffroAniela CukierHunan leddfuSenedd y Deyrnas UnedigRhestr Papurau BroLladinCysawd yr HaulMacOSHollt GwenerCiLlyngesGlyn Ceiriog12 ChwefrorLlyn ClywedogAbaty Dinas BasingClyst St MaryPoner el Cuerpo, Sacar la VozIndonesiaYsgol Syr Hugh OwenEnllibÆgyptusGweriniaeth IwerddonLlywodraeth leol yng NghymruWicipediaMET-ArtThe Night HorsemenGlasgwm, PowysEdward H. DafisThe AristocatsJohn Williams (Brynsiencyn)Iago II, brenin yr AlbanWhatsAppMichael D. JonesIndiaIseldiregCyfeiriad IPDewi 'Pws' MorrisErwainGwynfor EvansElizabeth TaylorArctic Passage🡆 More