Trên

Cerbyd neu res o gerbydau sy'n teithio ar reilffordd yw trên.

Fe'i defnyddir i gludo teithwyr neu nwyddau o un man i fan arall. Yn dechnegol mae'r term yn cyfeirio at res o gerbydau, ond fe'i defnyddir yn anffurfiol i ddisgrifio cerbydau unigol, yn arbennig locomotifau. Hen derm hanesyddol am drên oedd cerbydres.

Trên
Trên yn yr Ariannin.

Mathau o drenau

Trên 
Trên Shinkansen yn Japan.

Ceir mathau gwahanol o drên ar gyfer gwahanol reilffyrdd a phwrpasau. Gall trên gynnwys injan locomotif yn tynnu cerbydau di-bŵer, neu nifer o gerbydau aml-uned yn symud o dan eu pŵer eu hunain. Defnyddir trenau aml-uned fel rheol ar gyfer cludo teithwyr, tra gall locomotif dynnu cerbydau nwyddau, cerbydau teithwyr, neu gymysgedd. Mae sawl dull o symud trên. Ar y rheilffyrdd cynharaf gwthiwyd neu tynnwyd cerbydau gan ddynion neu dda byw (megis ceffylau), ond wedi dechrau'r Chwyldro Diwydiannol defnyddiwyd injans stêm yn gyffredin. Heddiw fe ddefnyddir injans disel neu drydan ran amlaf.

Effeithlonrwydd

Mae trenau yn defnyddio ynni yn llawer mwy effeithlon nag unrhyw fodd o gludiad peirianyddol arall - car, awyren neu long. Mae trên yn defnyddio rhyw 50 - 70% yn llai o ynni i gludo pwysau penodedig o gymharu â thrafnidiaeth ffordd. Y prif reswm dros hyn yw bod llai o ffrithiant rhwng olwynion a chledrau o gymharu â'r hyn a geir ar ffordd. Yn ogystal, mae arwynebedd blaen trên yn llai na'r hyn a geir ar gerbydau eraill, gan leihau'r gwrthiant aer. Mae'r effeithlonrwydd hwn yn golygu fod gan drafnidiaeth trên ôl troed ecolegol llai, ac yn cyfrannu llai at newid hinsawdd, o gymharu â thrafnidiaeth ffordd.

Delweddau

Gweler hefyd

Trên  Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am trên
yn Wiciadur.

Tags:

Trên Mathau o drenauTrên EffeithlonrwyddTrên DelweddauTrên Gweler hefydTrênRheilffordd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

AligatorGeronima Cruz MontoyaCasachstanHelen o Waldeck a PyrmontFfloridaCwinestrolY Deyrnas UnedigEagle Eye1960HwngariEirlysTalaith CremonaGweriniaethY Lôn WenBrodyr GrimmPost BrenhinolTulia, TexasGwrthglerigiaethPeredur ap GwyneddWilliam John Gruffydd (Elerydd)Albert CamusSgerbwd dynolCymraegMamograffegTudur Dylan JonesArundo donaxDonald TuskThe WayLea County, Mecsico NewyddLlenyddiaeth yn 2023Tîm Pêl-droed Cenedlaethol PortiwgalCrimea30 MehefinOfrenda a La TormentaDuel On The MississippiThomas Glynne DaviesLlyffantTyler, TexasParasomniaDic JonesCocoa Beach, FloridaJess DaviesTîm Pêl-droed Cenedlaethol yr IseldiroeddNovialPlus Beau Que Moi, Tu MeursFideo ar alwRadioDemolition ManCeri Rhys MatthewsMozilla FirefoxGeorgiaSian PhillipsRwsiaCarles Puigdemont19 TachweddTîm Pêl-droed Cenedlaethol Gwlad GroegAshland, OregonWicipedia CymraegY CremlinRosetta (cerbyd gofod)Gareth RichardsFfilmBeaulieu, HampshireTîm Pêl-droed Cenedlaethol Ffrainc🡆 More