Safle Treftadaeth y Byd yw safle penodol megis coed, cadwyn mynyddoedd, llyn, adeilad, grŵp o adeiladau, tref neu ddinas sydd wedi'i enwebu a'i gadarnhau ar restr a gedwir gan Raglen Treftadaeth y Byd.
Cedwir y rhestr hon gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO.
Nod y rhaglen yw rhestri, enwi a diogelu safleoedd o bwysigrwydd diwylliannol neu naturol arbennig i dreftadaeth ddynol gyffredin. O dan amodau arbennig, gall safleoedd ar y rhestr dderbyn arian gan Gronfa Treftadaeth y Byd. Sefydlwyd y rhaglen ar 16 Tachwedd 1972, ac, erbyn mis Gorffennaf 2017, roedd 1,073 o safleoedd ar y rhestr: 832 o safleodd diwylliannol, 206 o safleodd naturiol and 35 cymysg, yn 167 o wladwriaethau. Roedd gan yr Eidal y nifer fwyaf o Safleoedd Treftadaeth, gyda 53, dilynwyd gan Tsieina (52), Sbaen (46), Ffrainc (43), yr Almaen (42), India (36) Mecsico (34) a'r Deyrnas Unedig a'i Thiriogaethau Tramor (31).
Mae pedair Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru: Tirlun Diwydiannol Blaenafon, Cestyll a muriau trefi Harlech, Biwmares, Caernarfon a Chonwy, Dyfrbont Pont-Cysyllte a Tirwedd Llechi y gogledd-orllewin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Safle Treftadaeth y Byd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.