Tom Jones: Actor a aned yn 1940

Canwr Cymreig sy'n nodweddiadol am ei lais sy'n ymestyn dros sawl wythfed ydy Syr Thomas Jones Woodward neu Tom Jones (ganwyd 7 Mehefin 1940, Pontypridd).

Mae'n enedigol o bentref Trefforest. Mae e wedi ennill Gwobr Grammy, ac ymhlith ei ganeuon enwocaf, gellid crybwyll The Green Green Grass of Home a Delilah.

Tom Jones
Tom Jones: Bywyd cynnar, Bywyd personol, Cyfeiriadau
FfugenwTom Jones Edit this on Wikidata
GanwydThomas John Woodward Edit this on Wikidata
7 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Pontypridd Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records, Decca Records, Epic Records, Island Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, actor Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, rhythm a blŵs, y felan, blue-eyed soul, canu gwlad Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
PriodLinda Woodward Edit this on Wikidata
PlantJonathan Berkery, Mark Woodward Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Gwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau, Marchog Faglor, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.tomjones.com/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

Ganwyd Thomas John Woodward, yn 57 Kingsland Terrace, Trefforest, Pontypridd, Sir Forgannwg. Ei rieni oedd Thomas Woodward (bu farw 5 Hydref 1981), glöwr, a Freda Jones (bu farw 7 Chwefror 2003). Roedd tri o'i deulu o dras Seisnig: roedd ei dad-cu tadol, James Woodward, yn haliwr haearnwerthwr o Swydd Gaerloyw, ac roedd ei fam-gu dadol o Wiltshire. Roedd ei dad-cu mamol yn Gymraeg, a ganwyd ei fam-gu famol ym Mhontypridd, i rieni o Wlad yr Haf a Wiltshire. Mynychodd Jones Ysgol Fabanod Wood Road, Ysgol Gynradd Wood Road ac Ysgol Uwchradd Fodern Pontypridd Central. Dechreuodd ganu yn ifanc iawn: Roedd yn canu'n rheolaidd mewn digwyddiadau teuluol, priodasau ac yng nghôr yr ysgol. Nid oedd Jones yn hoffi ysgol na chwaraeon, ond magodd hyder drwy ei dalent i ganu. Yn 12 oed cafodd fod y diciâu arno. Blynyddoedd yn ddiweddarach dywedodd: "Treuliais i ddwy flynedd yn y gwely yn gwella. Dyna'r adeg waetha yn fy mywyd." Wrth wella nid oedd ganddo ddim i'w wneud heblaw gwrando ar gerddoriaeth a darlunio. Datblygodd arddull canu Jones allan o synau cerddoriaeth soul Americanaidd. Roedd ei ddylanwadau cynnar yn cynnwys cantorion y felan ac R&B fel Little Richard, Solomon Burke, Jackie Wilson a Brook Benton, ynghyd â Elvis Presley, oedd yn eilun i Jones a daeth yn ffrindiau agos gydag e yn ddiweddarach. Yn Mawrth 1957 priododd Jones ei gariad o'r ysgol uwchradd, Linda Trenchard, pan oedd y ddau yn 16 mlwydd oed a Linda yn disgwyl plentyn ganddo. Ganwyd ei mab Mark yn y mis yn dilyn y briodas. I gynnal ei deulu ifanc, cymerodd Jones swydd mewn ffatri fenig ac yn ddiweddarach mewn gwaith adeiladu.

Tom Jones: Bywyd cynnar, Bywyd personol, Cyfeiriadau 
Tom yn canu deuawd gyda Janis Jopling ar ei raglen teledu This Is Tom Jones yn 1969

Bywyd personol

Roedd Jones yn briod gyda'i wraig Linda rhwng 1957 hyd ei marwolaeth yn 2016, er gwaetha bod yn anffyddlon yn ystod ei yrfa. Mae gan y cwpl un mab, Mark Woodward (1957). Ar anterth ei enwogrwydd, honnodd Jones ei fod wedi cael rhyw gyda fyny at 250 o grwpis y flwyddyn Unwaith arweiniodd ei fercheta at Linda i ymosod yn gorfforol arno. Ar ôl darllen am un garwriaeth yn y papur newydd, fe bwniodd a chiciodd Jones, ond ni ymladdodd 'e nôl. "I took it", dywedodd. Cafodd Jones garwriaethau gyda nifer o fenywod adnabyddus yn cynnwys Mary Wilson o The Supremes, cyflwynydd teledu Charlotte Laws a'r cyn Miss Byd Marjorie Wallace. Honnodd Cassandra Peterson, sy'n fwy adnabyddus fel Elvira, Mistress of the Dark, ei bod wedi colli ei gwyryfdod i Jones. Ganwyd bachgen o ganlyniad i un garwriaeth. Yn Hydref 1987, tra ar daith yn yr UDA, cafodd Jones berthynas byr gyda'r model Katherine Berkery, a ddarganfu wedyn ei bod yn feichiog. Ar ôl brwydr gyfreithiol oedd yn cynnwys profi DNA, dyfarnodd llys yn yr Unol Daleithiau yn 1989 mai Jones oedd tad y bachgen. Gwadodd Jones ganfyddiad y llys, hyd at 2008 pan gyfaddefodd y gwir. Nid yw wedi dangos diddordeb mewn cyfarfod ei fab, Jonathan Berkery. Yn dilyn etholiad Harold Wilson o'r Blaid Lafur fel Prif Weinidog yn 1974, daeth Jones yn alltud treth. Yn Mehefin 1976, prynodd blasty bric coch ar 363 Copa De Oro Road yn East Gate Bel Air, Los Angeles o Dean Martin am $500,000. Fe'i gwerthodd i Nicolas Cage yn 1998 am $6.469 miliwn yn ôl adroddiadau. Yn 2009 ar ôl 35 mlynedd o fyw yn yr UDA, datgelodd Jones ei fod e a'i wraig yn bwriadu symud yn ôl i Brydain. Dywedodd Jones "I've had a great time living in Los Angeles but after all these years, we think now is the time to move home". Ar sioe The Chris Moyles Show ar 27 Gorffennaf 2009, dywedodd ei fod dal i fyw yn Los Angeles a'i fod am aros yno am y tro, ond ei fod dal yn ymweld â gwledydd Prydain yn aml. Yn Hydref 2014 cyhoeddwyd ei hunangofiant Over the Top and Back: The Autobiography gan Michael Joseph. Yn adolygu'r llyfr yn The Express, dywedodd Clair Woodward, "Yn nhraddodiad gymaint o hunangofiannau dyddiau yma, 'dyw Tom Jones ddim wir yn dweud beth ydych chi wir eisiau glywed. ... Beth sydd yn weddill yw stori ddifyr tu hwnt o Jones 'The Voice' sydd hefyd yn dweud stori am bop Prydeinig ac adloniant ysgafn o'r Chwedegau ymlaen." Bu farw y Fonesig Melinda Rose Woodward (Linda) ar 11 Ebrill 2016, wedi "brwydr fer" gyda chanser. Roedd Jones wedi canslo cyngherddau wythnos ynghynt oherwydd "salwch difrifol" yn y teulu.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Tom Jones Bywyd cynnarTom Jones Bywyd personolTom Jones CyfeiriadauTom Jones Dolenni allanolTom Jones19407 MehefinCanwrCymruGrammyPontypriddTrefforest

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)BelarwsBanc LloegrPervez MusharrafWilliam Jones (ieithegwr)Organau rhywSaesnegRosetta (cerbyd gofod)EwroAmy CharlesVurğun Ocağı18 ChwefrorLlywodraeth CymruOceaniaLaserNeft KəşfiyyatçılarıYr Ariannin2 TachweddDeinosorRhestr adar CymruCeri Rhys MatthewsMwcwsWikipediaHoudiniSant NicolasComin WicimediaHer & HimCamlas LlangollenRhestr gwledydd yn nhrefn eu poblogaethY Lôn WenSul y BlodauDafydd IwanEthan AmpaduCyrch BarbarossaBrysteCysawd yr Haul1955Gwledydd y bydParasomniaSian PhillipsAlfred HitchcockGweriniaethColeg Balliol, RhydychenPaffioAlmanacHunan leddfuFozil Musaev3 TachweddRHEBSafleoedd rhywUndeb Rygbi Cymru1833MaliGwenllian DaviesAlun Wyn JonesYr Undeb EwropeaiddLyn EbenezerDavid Lloyd GeorgeThe WayDinas LlundainParamount PicturesGoogle Chrome🡆 More