Cantores, dawnswraig a diddanwr Americanaidd oedd Tina Turner (ganwyd Anna Mae Bullock; 26 Tachwedd 1939 – 24 Mai 2023).
Tina Turner | |
---|---|
Ffugenw | Tina Turner |
Ganwyd | Anna Mae Bullock 26 Tachwedd 1939 Brownsville, Tennessee |
Bu farw | 24 Mai 2023 Küsnacht |
Man preswyl | Küsnacht, Marienburg |
Label recordio | Capitol Records, EMI, United Artists Records, Parlophone Records, Virgin |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Y Swistir |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, dawnsiwr, hunangofiannydd, cyfansoddwr caneuon, artist recordio, actor, coreograffydd, cerddor |
Adnabyddus am | Private Dancer |
Arddull | cerddoriaeth roc, cerddoriaeth yr enaid, cerddoriaeth boblogaidd, canu gwlad, roc a rôl, rhythm a blŵs, ffwnc |
Math o lais | contralto |
Priod | Ike Turner, Erwin Bach |
Partner | Erwin Bach |
Plant | Raymond Craig Turner, Ronnie Turner |
Perthnasau | Ike Turner, Jr., Michael Turner, Afida Turner |
Gwobr/au | Anrhydedd y Kennedy Center, MOBO Awards, Gwobrau Cerdd America, Gwobr Grammy am y Perfformiad R&B Gorau gan Ddeuawd neu Grwp Lleisiol, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, chevalier des Arts et des Lettres, Rock and Roll Hall of Fame, Grammy Award for Record of the Year, Gwobr Grammy am Berfformiad Lleisiol Pop Benywaidd Gorau, Gwobr Gammy am Berfformiad o'r Gân Roc Orau gan Leisydd Benywaidd, Gwobr Gammy am Berfformiad o'r Gân Roc Orau gan Leisydd Benywaidd, Gwobr Gammy am Berfformiad o'r Gân Roc Orau gan Leisydd Benywaidd, Gwobr Gammy am Berfformiad o'r Gân Roc Orau gan Leisydd Benywaidd, Gwobr Grammy am Albwm y Flwyddyn, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy |
Gwefan | https://www.tinaturnerofficial.com |
llofnod | |
Yn sgîl ei llwyddiant, ei phoblogrwydd a'i chyfraniadau parhaus i gerddoriaeth roc, mae nifer wedi rhoi'r teitl "Brenhines Roc & Rol" iddi. Roedd yn enwog am ei pherfformiadau llwyfan bywiog, ei llais pŵerus a'i chyngherddau poblogaidd. Ennillodd Turner wyth Gwobr Grammy.
Mae yna gysylltiad pell rhwng cyn-deidiau ei thad, gyda chyfenw Bullock a Chymru. Mae gan y cerddor Rhys Mwyn cysylltiad yn ei goeden deulu drwy ei hen hen daid. Mae nifer gyda'r cyfenw Bullock yn byw ym Methesda ac yn nghymoedd y de.
Priododd Ike Turner ym 1962 a buont yn perfformio gyda'i gilydd am nifer o flynyddoedd. Daeth yn anhapus oherwydd bod Ike yn dreisgar ac yn anrhagweladwy. Priododd Erwin Bach yn 2013.
Bu farw yn 83 oed wedi cyfnod o salwch. Roedd hi wedi bod yn dioddef o ganser y coluddyn ers rhai blynyddoedd ac wedi cael trawsblaniad aren yn 2017.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tina Turner, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.