Sefydlwyd Teyrnas Valencia (Regne de Valencia) yng ngogledd-ddwyrain Sbaen yn 1237, fel is-deyrnas gan Goron Aragon.
Parhaodd hyd 1707. Roedd ei ffiniau yn debyg i ffiniau Cymuned Ymreolaethol Valencia heddiw.
Yn ystod y Reconquista ar Benrhyn Iberia, fe oresgynodd y Cristionogion y taifas (teyrnasoedd) Islamaidd oedd yn ffurfio Al-Andalus. Erbyn 1237 roedd taifa Balansiya (Valencia) wedi ei choncro gan Iago I, brenin Aragon. Tros y blynyddoedd nesaf, ymestynwyd ei ffiniau tua'r de.
Parhaodd y boblogaeth Fwslimaidd flaenorol, y mudejar, yma nes i'w disgynyddion, y Morisgiaid, gael eu gyrru allan yn 1609. Cyrhaeddodd y deyrnas uchafbwynt ei grym yn rhan gyntaf y 15g.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Teyrnas Valencia, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.