Cyfansoddwr Americanaidd oedd Stephen Joshua Sondheim (22 Mawrth 1930 – 26 Tachwedd 2021).
Roedd yn o'r ffigyrau pwysicaf ym myd theatr cerdd yr 20fed ganrif.
Stephen Sondheim | |
---|---|
Ganwyd | Stephen Joshua Sondheim 22 Mawrth 1930 Manhattan |
Bu farw | 26 Tachwedd 2021 Roxbury, Connecticut |
Man preswyl | Hollywood, Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, cyfansoddwr caneuon, sgriptiwr, bardd, awdur geiriau, cerddor, cyfansoddwr, libretydd |
Arddull | sioe gerdd |
Gwobr/au | Johnny Mercer Award, Praemium Imperiale, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Gwobr Ymddiriedolwyr Grammy, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr Laurence Olivier, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Edgar, Anrhydedd y Kennedy Center, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr lenyddiaeth Carl Sandburg, Hull-Warriner Award, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain, Critics' Circle Award for Distinguished Service to the Arts |
Gwefan | http://sondheim.com |
Fel cyfansoddwr cerddoriaeth a geiriau, roedd rhai o'i weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys A Funny Thing Happened on the Way to the Forum (1962), Company (1970), Follies (1971), A Little Night Music (1973), Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street (1979), Sunday in the Park with George (1984), ac Into the Woods (1987). Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer West Side Story (1957) a Gypsy (1959).
Enillodd naw Gwobr Tony (mwy nag unrhyw gyfansoddwr arall) a Gwobr Tony Arbennig am Gyfraniad Gydol Oes i'r Theatr, Gwobr yr Academi, wyth Gwobr Grammy, Gwobr Pulitzer a Gwobr Laurence Olivier. Fe'i disgrifiwyd fel "the greatest and perhaps best-known artist in the American musical theatre." Ef oedd llywydd Cymdeithas y Dramodwyr o 1973 tan 1981.
Cafodd Sondheim ei eni yn Ddinas Efrog Newydd, yn fab i Etta Janet ("Foxy"; née Fox; 1897–1992) a Herbert Sondheim (1895–1966). Gadawodd Herbert ei wraig am fenyw arall. Doedd Stephen ddim yn hoffi ei fam o gwbl. Cafodd ei addysg yn yr Academi Filwrol Efrog Newydd, Ysgol George ym Mhennsylvania, a Choleg Williams.
Roedd Sondheim yn hoyw. Priododd Jeffrey Scott Romley yn 2017. Bu farw Sondheim gartref yn Roxbury, Connecticut, yn 91 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Stephen Sondheim, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.