Sognefjord

Sognefjord yw'r Fjord hiraf a dyfnaf yn Norwy.

Lleolir Sognefjord yn swydd Vestland; mae’n 205 cilomedr o hyd, o’r môr i bentref Skjolden. Mae’r fjord yn ardal Sogn.

Sognefjord
Sognefjord
Sognefjord
Sognefjord

Daearyddiaeth

Mae’r fjord yn pasio trwy Solund, Gulen, Hyllestad, Høyanger, Vik, Sogndal, Lærdal, Aurland, Årdal, a Luster ac yn cyrraedd dyfnder o 1308 medr ger Høyanger. Mae dyfnder y fjord dros 1000 medr o Rutledal i Hermansverk, tua 100 milltir. Mae aber y fjord yn fas, tua 100 medr o dan lefel y môr. Mae haen trwchus o waddod ar waelod y fjord. Lled mwyaf y fjord yw 6 cilomedr. Mae clogwyni bron unionsyth yn codi i uchder o 1000 medr. Mae sawl fjord arall, megis Aurlandsfjord yn ymuno â Sognefjord. Mae ambell swnt a nifer o ynysoedd, gan gynnwys Sula Losna a Hiserøyna, rhai ohonynt yn greigiog yn ymyl aber Sognefjord.. Tu ôl i’r fjord, mae mynyddoedd tua 1000 medr o uchder a rhewlif Jostedalsbreen, yr un mwyaf ar gyfandir Ewrop. Mae’r mynyddoedd Hurrungane yn cyrraedd o uchder. Mae nifer o afonydd yn llifo i’r fjord. Ac mae’r mewnlif ar ei fwyaf ym Mehefin.. Mae’r fjord yn mynd trwy graig Gneis.

Canghennau

  • Sognesjøen (aber), 35 cilomedr
  • Lifjorden, 6 cilomedr
  • Høyangsfjord,8 cilomedr
  • Arnafjord, 8 cilomedr
  • Esefjord,4 cilomedr
  • Fjærlandsfjord, 27 cilomedr
  • Sogndalsfjord, 21 cilomedr
  • Aurlandsfjord, 29 cilomedr
  • Nærøyfjord (Safle Treftadaeth y Byd), 18 cilomedr
  • Lærdalsfjord, 9 cilomedr
  • Årdalsfjord, 16 cilomedr
  • Lustrafjord, 42 cilomedr

Lustrafjorden

Lustrafjord yw’r un bellaf o’r aber, yn ardal Luster. Ar ben Lustrafjord mae’r pentref Skjolden o le mae’n bosibl cyrraedd Parc Cenedlaethol Jotunheimen. Amser maith yn ôl, buasai drafic rhwng Bergen a Skjolden ar gychod ac wedyn ar ffordd dros y mynyddoedd. Erbyn hyn mae ffordd sir 55 yn cyrraedd Skjolden, ac mae ffordd E16 yn cyrraedd yr ardal o Oslo.

Daeareg

Mae’r dyffryn yn hŷn na’r bedwaredd oes iâ, ond cafodd lethrau graddol. Gogwyddodd y tir yn ddwyreiniol, a thorrodd afonydd ddyfnaint ar eu ffordd i’r gorllewin..Dilynodd yr erydiad gan afonydd a rhewlifau wendidau crawen y ddaear. Yn ystod yr oes iâ ddiwetharaf, cyrhaeddodd yr iâ ddyfnder o 3000 medr. Hyd at 30 cilomedr o’r arfordir, cedwyd rhewlif Sognefjord i’w sianel gul o haenithfaen, ond ehangwyd yn agosach i’r môr.

Twristiaeth

Sognefjord 
Nærøyfjord
Sognefjord 
1853 portread y fjord gan Hans Gude ac Adolph Tidemand.

Mae cychod yn cysylltiad rhwng pentrefi’r fjord, gan gynnwys Leirvik, Ytre Oppedal, Vadheim, Høyanger, Vikøyri, Balestrand, Hermansverk, Sogndalsfjøra, Gudvangen, Flåm, Aurlandsvangen, Lærdalsøyri, Årdalstangen, Gaupne a Solvorn. Mae Gudvangen ar lan Nærøyfjord, sy’n fjord arbennig o fawreddog. Mae Nærøyfjord a Geirangerfjord yn Safle UNESCO Dreftadaeth y byd. Mae Rheilffordd Flåm yn cysylltu Sognefjord â gweddill rheilffyrdd Norwy, yn dringo 864 medr dros 20 cilomedr rhwng Flåm a Myrdal. Mae 3 eglwys erwydd yn yr ardal, yn Kaupanger, Urnes a Borgund.

Trafnidiaeth

Mae cynllun adeiladu twnnel gyda ffordd ar draws Sognefjord.

Mae sawl fferi ar draws y fjord, gan gynnwys MV Ampere, fferi batri-trydanol cyntaf y byd, rhwng Lavik ac Ytre Oppedal.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Sognefjord DaearyddiaethSognefjord DaearegSognefjord TwristiaethSognefjord TrafnidiaethSognefjord CyfeiriadauSognefjord Dolenni allanolSognefjordNorwy

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Big BoobsSwahiliAstreonamRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrOh, You Tony!Storïau TramorNeonstadtNic ParryThree AmigosSiot dwadY we fyd-eangMyrddinInstitut polytechnique de ParisCaerCaersallogMoldovaIncwm sylfaenol cyffredinolUn Nos Ola LeuadTonari no TotoroSimbabweJust Tony17 EbrillJim DriscollBarbie & Her Sisters in The Great Puppy AdventureSystem weithreduIago VI yr Alban a I LloegrLlyn BrenigURLWiciWicipediaLingua Franca NovaWiciadurIfan Huw DafyddCharles Edward Stuart22Rhys ap ThomasBeilïaeth JerseyDafydd Dafis (actor)Sian Adey-JonesY GododdinRhif cymhlygThe Trouble ShooterYr AlmaenThe Salton SeaRhyw rhefrolDelhiAffganistanLlyn TrawsfynyddPensiwnTsieinaBigger Than LifeSteffan CennyddİzmirHafanUndeb Chwarelwyr Gogledd CymruAderyn bwn lleiafMET-ArtAwstralia (cyfandir)After EarthYstadegaethFleur de LysLlundainIago III, brenin yr AlbanUwch Gynghrair LloegrDylunioRobert II, brenin yr AlbanBusty CopsY CroesgadauAlan TuringAlldafliad benywLos Angeles🡆 More