Sasuke Uchiha

Un o'r prif gymeriadau yn y gyfres manga ac anime Naruto yw Sasuke Uchiha (Japaneg: うちはサスケ).

Fe ddaeth Sasuke un o wrthwynebydd y gyfres wrth geisio argeisio pŵer gan Orochimaru. Sasuke yw'r unig aelod o'r Clan Uchiha ar ôl heb gynnwys Madara Uchiha.

Sasuke Uchiha
Sasuke Uchiha yn y gyfres anime Naruto

Cefndir

Er mai athrylith yw Sasuke, yr oedd yn byw yng nghysgod ei frawd, Itachi Uchiha. Ar ôl i Itachi lladd y Clan Uchiha, mae Sasuke yn dewis dilyn Itachi a'i ladd. Dros y blynyddoedd, mae Sasuke yn ymarfer ei fedrau o fewn Tîm Saith ac yn cymryd yr Arholiadau Chuunin er mwyn gwella ei radd. Yn ystod yr Arholiadau Chuunin, mae Orochimaru yn ymosod ar Dîm Saith. Mae Orochimaru yn gadael y Sêl Melltith ar Sasuke trwy gnoi ei ysgwydd fel neidr, ac yna yn dweud gall Sasuke dilyn ef os yw'n ceisio pŵer. Mae Sasuke yn llwyddo byw trwy effeithiau cynnar y Sêl Melltith, ac yna yn dewis dilyn Orochimaru.

Sasuke Uchiha 
Y Sêl Melltith ar ysgwydd Sasuke

Yna, mae Tsunade yn danfon sawl Ninja gan gynnwys Naruto er mwyn trio ffeindio Sasuke a mynd â fe y ôl i Konoha. Mae'r Ninja yn methu, ac mae Sasuke yn mynd ymlaen i ddod yn ddisgybl i Orochimaru.

Blynyddoedd ar ôl hynny, mae Sasuke yn lladd Orochimaru tra bod Orochimaru yn sâl iawn. Mae Sasuke yn gwybod bod Orochimaru eisiau defnyddio'i gorff fel cynhwysydd newydd, gan fod rhaid i Orochimaru symud cyrff pob pedwar blwyddyn. Yna mae Sasuke yn mynd i edrych am Itachi er mwyn ei ladd, gan ei fod yn gryfach. Mae Sasuke yn ceisio, ac yna yn cael ei ffeindio gan Madara ar ôl llewygu. Mae Madara yn dweud wrtho taw gorchmynion Hokage Konoha achosodd i Itachi lladd y clan ac os nad oedd Itachi yn fodlon gwneud hynny, mi fydd rhywun arall yn eu lladd. Yn ofni bydd Sasuke yn cael ei ladd, cytunodd Itachi lladd y clan ar yr amod bod Sasuke yn cael byw. Ar ôl lladd y clan, dywedodd wrth Sasuke i'w ffeindio a'i ladd yn y dyfodol. Cadwodd gorchymyn Konoha yn gyfrinach fel bod Sasuke ddim yn ceisio ymosod ar Konoha; er hynny, ar ôl gwrando ar Madara, mae Sasuke yn cynllunio ymosod gyda Karin, Juugo, a Suigetsu.

Tags:

AnimeJapanegMangaNaruto

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

LlundainCarmen AldunateParc CwmdonkinVanessa BellThe ClientLisbon, MaineWaller County, TexasNevermindComin WicimediaWordPressDjiaramaExtinctionClancy of The MountedHindŵaethColeg Emmanuel, CaergrawntBeulahEtifeddegKaapse KleurlingSisters of AnarchyHunllefRhuthrad yr Hajj (2015)Adolf HitlerCalsugnoTøser + DrengerøveMervyn KingLisa RogersContactBustin' LooseAnna Katharina BlockAndover, New JerseyY Weithred (ffilm)Zombie Massacre (ffilm, 2013)1926Egni gwynt448 CCThe Lake HouseMarcsiaethCytundeb KyotoTour de France 1903Dicen Que Soy ComunistaSheila Regina ProficeCaseinDamian Walford DaviesInvertigoArnold WeskerThe Man I MarryDod allanLeighton JamesJohn Gwilym Jones (bardd)3 SaisonsCog-gigydd llwydCanghellor y TrysorlysJapanCarnedd gylchog HengwmMartin van MaëleYnysoedd BismarckHuizhou460auDas Mädchen Von FanöFfilm yn yr Unol DaleithiauISO 4217ReynoldstonDisturbiaMuzeum Miniaturowej Sztuki Profesjonalnej Henryk Jan Dominiak yn Tychy🡆 More