Un o chwaraeon mwyaf boblogaidd Cymru, a ystyriwyd yn hanesyddol fel y gêm genedlaethol yw rygbi'r undeb yng Nghymru.
Undeb Rygbi Cymru yw corff rheoli'r gêm, sy'n berchen ar Stadiwm y Mileniwm, cae cartref y tîm cenedlaethol. Rhestrir Cymru yn yr haen uchaf gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, ac mae Cymru'n cystadlu'n flydnyddol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac ym mhob Cwpan Rygbi'r Byd. Y person tywyll cyntaf i chwarae gêm o rygbi'r Undeb dros Gymru oedd Mark Brown, a hynny ar 11 Tachwedd 1983.
Y brif gystadleuaeth fewnol yw'r Guinness Pro12 (yn hanesyddol y Gynghrair Geltaidd): mae pedwar tîm o Gymru yn y gynghrair hon sy'n cystadlu'n erbyn ei gilydd a chlybiau o Iwerddon, yr Alban a'r Eidal. Cystadleir timau Cymreig hefyd yng Nghwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop, Cwpan Her Rygbi Ewrop, a gyda thimau Lloegr yn y Gwpan Eingl-Gymreig.
O dan y Pro12, cynrychiolir rygbi'r clybiau gan fwy na 200 o glybiau cyswllt ag Undeb Rygbi Cymru sy'n chwarae ym Mhrif Adran Cymru a'r cynghreiriau adrannol is.
Sefydlwyd clybiau rygbi mewn trefi ar draws Cymru, gan gynnwys nifer o gymunedau'r pyllau glo, yn ystod y 1870au a'r 1880au. Datblygodd y gêm yn rhan bwysig o ddiwylliant y dosbarth gweithiol yn ne Cymru, gan ei gwahaniaethu o'i chysylltiad â'r ysgolion bonedd a phrifysgolion mewn rhannau eraill o Brydain. Erbyn troad y ganrif roedd rygbi'n ganolbwynt i fath newydd o genedlaetholdeb Cymreig poblogaidd, yn enwedig yn wyneb niferoedd uchel o fewnfudwyr i'r wlad. Yn wahanol i'r drefn yn Lloegr, datblygodd diwylliant mwy gystadlaethol i'r gêm gan dimau lleol Cymru. Cynhaliwyd Cwpan Her De Cymru rhwng 1878 a 1897, a datblygodd system gynghrair answyddogol erbyn y 1930au.
Yn fuan daeth Cymru yn un o'r timau goruchaf ar y llwyfan ryngwladol. Sefydlwyd Undeb Rygbi Cymru ym 1881, ac ymunodd Cymru â Phencampwriaeth y Gwledydd Cartref gan gystadlu'n erbyn Lloegr, Iwerddon a'r Alban. Cymru oedd yr unig dîm i drechu Seland Newydd pan ymwelodd y Crysau Duon â Phrydain ac Iwerddon yn gyntaf ym 1905.
Dalai'r gêm ei safle mewn hunaniaeth genedlaethol trwy gydol yr 20g, yn enwedig oes aur y 1960au a'r 1970au. Caeodd nifer o byllau glo'r de yn ystod y 1980au gan ddifetha'r cymunedau oedd yn grud a chartref i rygbi'r undeb yng Nghymru ers canrif. Ers y cyfnod hwnnw, cryn ymdrech mae i Gymru geisio adennill ei safle fel un o dimau goruchaf y byd.
Mae tîm rygbi saith bob ochr Cymru yn cystadlu fel un o'r 12 o dimau craidd yng Nghyfres IRB Rygbi Saith Bob Ochr y Byd pob blwyddyn. Enillodd Cymru cystadleuaeth saith bob ochr Cwpan Rygbi'r Byd yn 2009.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rygbi'r undeb yng Nghymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.