Cyn-chwaraewr a hyfforddwr pêl-droed Cymreig yw Ryan Joseph Giggs OBE (ganwyd Ryan Joseph Wilson; 29 Tachwedd 1973).
Bu'n is-reolwr ar Manchester United; clwb lle treuliodd 24 o flynyddoedd yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr. Roedd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol â thîm cenedlaethol Cymru. Aeth ymlaen i fod yn reolwr tîm cenedlaethol Cymru.
Giggs yn chwarae i Manchester United yn 2010. | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Ryan Joseph Giggs | ||
Dyddiad geni | 29 Tachwedd 1973 | ||
Man geni | Caerdydd, Cymru | ||
Taldra | 1.79m | ||
Safle | Canol Cae | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | dim | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
1985–1987 | Manchester City | ||
1987–1990 | Manchester United | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1990–2014 | Manchester United | 672 | (114) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
1989 | Lloegr dan 16 | 1 | (1) |
1989 | Cymru dan 18 | 3 | (0) |
1991 | Cymru dan 21 | 1 | (0) |
1991–2007 | Cymru | 64 | (12) |
2012 | Prydain Fawr | 4 | (1) |
Timau a Reolwyd | |||
2014 | Manchester United (rheolwr dros dro) | ||
2014–2016 | Manchester United (is-reolwr) | ||
2018–2022 | Cymru | ||
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Cyhoeddodd ei ymddeoliad o bêl-droed rhyngwladol ar 2 Mehefin 2007 cyn ymddeol o bêl-droed yn gyfan gwbwl ar 19 Mai 2004
Ar 15 Ionawr 2018 cyhoeddwyd mai Giggs oedd rheolwr newydd tîm cenedlaethol Cymru, yn dilyn Chris Coleman. Cafodd ei arestio yn Tachwedd 2020 a sefodd nôl o'i waith fel rheolwr Cymru. Yn ddiweddarach cafodd ei gyhuddo o ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth ac o ymosod ar ei gyn-gariad. Roedd yn gwadu'r cyhuddiadau. Ar 20 Mehefin 2022 ymddiswyddodd o'r swydd rheolwr.
Lynne Giggs yw ei fam a chwaraewr rygbi cynghrair oedd ei dad, Danny Wilson. Fe'i anwyd yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd a fe'i magwyd yn ardal Trelái. Yn 1980, pan oedd yn 6 mlwydd oed, ymunodd ei dad gyda chlwb rygbi cynghrair Swindon RLFC ac felly symudodd y teulu i Swinton, tref yn Salford. O'r herwydd mae'n siarad gydag acen Manceinion. Roedd ei dad o dras gymysg (o ddisgyniad Sierra Leone) ac mae Giggs wastad wedi dangos balchder yn ei dreftadaeth gymysg.
Giggs yw'r chwaraewr sydd wedi gwasanaethu hiraf yn Manchester United. Ers ei ymddangosiad cyntaf dros clwb yn nhymor 1990-1991, mae wedi bod yn chwaraewr cyson ers tymor 1991-1992. Ef sydd wedi chwarae'r ail nifer fwyaf o gemau cystadleuol dros glwb (yn ail i Bobby Charlton), ac mae'n dal y record am y nifer fwyaf o wobrau tîm a enillwyd gan chwaraewr (23). Ers 1992, mae hefyd wedi casglu naw medal enillydd Uwch Gyngrhair Lloegr, pedwar medal enillydd Cwpan Lloegr, dau fedal Cwpan Cynghrair ac un medal fel enillydd yr UEFA Champions League. Mae ganddo hefyd fedalau am ddod yn ail mewn dau rownd derfynol Cwpan Lloegr a dau rownd derfynol Cwpan y Gynghrair, yn ogystal â bod yn rhan o bedwar tîm Manchester United sydd wedi gorffen yn ail yn y gynghrair.
Bu Giggs yn gapten ar dîm bechgyn ysgol Lloegr (roedd pob bachgen ysgol yn Lloegr yn gymwys i chwarae i'r tîm hwn beth bynnag oedd eu cenedligrwydd), ond chwaraeodd fel aelod o Dîm Cenedlaethol Cymru pan oedd yn oedolyn. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru ac yntau ond yn 17 oed yn 1991. Ef oedd y chwaraewr ieuengaf erioed ar y pryd i chwarae dros ei wlad. Apwyntiwyd ef yn gapten tîm Cymru yn 2004.
Yn 2011 cafodd Giggs ei enwi fel CTB yn yr achos CTB v News Group Newspapers pan enillodd gorchymyn ffrwyno i atal y wasg rhag datgelu manylion am ei berthynas ag Imogen Thomas.
Gyrfa gyda Manchester United:
Hyd y gêm a chwaraewyd 9 Mai 2010
Cystadleuaeth | Dechrau | Diwedd | Ymddangosiadau | Goliau |
---|---|---|---|---|
Cynghrair Lloegr | 1991 | 588 | 108 | |
Cwpan FA | 1991 | 65 | 10 | |
Cwpan Cynghrair Lloegr | 1991 | 36 | 9 | |
Cystadlaethau Ewropeaidd | 1994 | 132 | 28 | |
Gemau cystadleuol eraill | 1991 | 17 | 1 | |
Cyfanswm | 1991 | 838 | 156 |
Enillodd wobr PFA Young Player of the Year ddwywaith (1992 a 1993), gan ddod y chwaraewr cyntaf i ennill y wobr ddwy flynedd yn olynol, camp a gafodd ei efelychu gan Robbie Fowler a'i gyd-aelod tîm presennol, Wayne Rooney yn unig. Mae cefnogwyr pêl-droed hefyd wedi pleidleisio gôl Giggs yn rownd cyn-derfynol Cwpan yr FA yn erbyn Arsenal (pan gurodd pedwar amddiffynnwr gan gynnwys (Lee Dixon ddwywaith, i sgorio), i fod yn gôl gorau erioed i Manchester United.[angen ffynhonnell]
Derbyniodd Giggs OBE yn rhestr anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines, 2007.
Mae Giggs yn dal sawl record arall hefyd, gan gynnwys y sgoriwr amlaf yn yr FA Premier League nad oedd yn chwarae yn safle saethwr ar y pryd, ac mae'n dal y record am sgorio gôl gyflymaf Manchester United (15 eiliadau), yn Tachwedd 1995 yn erbyn Southampton.
Tîm cendlaethol pêl-droed Cymru | ||
---|---|---|
Year | Apps | Goals |
1991 | 2 | 0 |
1992 | 3 | 0 |
1993 | 6 | 2 |
1994 | 1 | 1 |
1995 | 3 | 0 |
1996 | 3 | 1 |
1997 | 3 | 1 |
1998 | 1 | 0 |
1999 | 3 | 1 |
2000 | 4 | 1 |
2001 | 4 | 0 |
2002 | 5 | 0 |
2003 | 7 | 1 |
2004 | 3 | 0 |
2005 | 6 | 3 |
2006 | 5 | 0 |
2007 | 4 | 1 |
Total | 64 | 12 |
Rhagflaenydd: Neville Southall | Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, BBC Cymru 1996 | Olynydd: Scott Gibbs |
Rhagflaenydd: Shane Williams | Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, BBC Cymru 2009 | Olynydd: Gareth Bale |
Rhagflaenydd: Lee Sharpe | PFA Young Player of the Year 1992 & 1993 | Olynydd: Andy Cole |
Rhagflaenydd: Gary Neville | Dirprwy-gapten Manchester United F.C. 2005 - 2014 | Olynydd: ''' |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ryan Giggs, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.