Peiriant rhithwir neu fecanyddol ydy robot fel arfer, sydd wedi'i raglennu i wneud tasg neu dasgau arbennig a hynny ar ei ben ei hun.
Mae'r robotiaid mwyaf clyfar yn ymddangos fel pe bai ganddynt nodweddiol dynol ac yn gallu meddwl drosto'i hun. Gellir didoli robotiaid i'r dosbarthiadau canlynol: robot dynoid dwy goes, robotiaid â rhagor o goesau e.e. System-gefnogi Bedair Coes, robotiaid ar olwynion neu robotiaid ehedog e.e. drôns. Gellir hefyd eu dosbarth yn ôl maint e.e. y nano-robotiaid meicrosgopig, neu yn ôl eu gwaith. Mae'r car diyrrwr hefyd yn cynnwys elfennau o robotiaeth.
Math | peiriant, endid deallusrwydd artiffisial |
---|---|
Yn cynnwys | actifadydd, ffynhonnell ynni, cyfrifiadur, synhwyrydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ers cychwyn gwareiddiad bu gan fodau dynol ddiddordeb i greu offer neu gyfarpar a allai ei gynorthwyo ac ysgafnhau ei faich. Aeth i'r pegwn eithaf pan geisiodd drefnu caethweision i wneud gwaith llafurus drosto, fel arfer y gwaith butraf ac anoddaf. Roedd creu peiriant megis olwyn ddŵr neu'r pwmp yn ei alluogi i wneud y gwaith ailadroddus hwn yn gynt a chynt ac yn fwy effeithiol. Wrth i dechnoleg ddatblygu daeth y peiriannau hyn yn fwy cymhleth ac yn fwy effeithiol fyth. Ar gyfer un dasg yn unig y crewyd y rhan fwyaf o'r peiriannau, ond dychmygai rhai beiriant tebyg i ddyn a allai droi ei law at unrhyw dasg dan haul.
Ymhlith y meddylwyr mawr yn y maes hwn mae: Leonardo Da Vinci yn yr 1490au a Jacques de Vaucanson yn 1739; cynlluniwyd nifer o beiriannau aml-dasg gan y ddau yma. Cynlluniwyd torpido wedi'i reoli gan donfeydd radio gan Nikola Tesla yn 1898 a rhoddodd Makoto Nishimura (yn 1929) nodweddion dynol megis dagrau i'r pen mecanyddol a alwodd yn "Gakutensoku".
Daw'r gair "robot" allan o ddrama o'r enw R.U.R. (Rossum's Universal Robots) a sgwennwyd gan Karel Čapek o Tsiecoslofacia yn 1920. "Llafurwr" oedd y gair gwreiddiol ganddo ond awgrymodd ei frawd Josef derm newydd: 'robot'.
Yn 1942 ysgrifennodd Isaac Asimov ffuglen-wyddonol a gynhwysodd "Tair Deddf Robotiaeth"; defnyddiwyd y rhain drachefn yn y ffilm I Robot yn 2004.
Yn groes i'r arfer o roi nodweddion dynol ar robot, sgwennodd Owain Owain nofel Gymraeg o'r enw Y Dydd Olaf a roddodd nodweddion robotaidd ar bobl wedi'u cyflyru gan awdurdodau totalitaraidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Robot, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.