Peiriannydd a dyfeisiwr Cymreig oedd Robert Griffiths (13 Rhagfyr 1805 - Mehefin 1883) o fferm Lleweni, Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych.
Robert Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 13 Rhagfyr 1805 Lleweni |
Bu farw | 16 Mehefin 1883 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | peiriannydd |
Yn ifanc iawn dysgodd grefft y saer, cyn brentisio mewn peirianneg ym Mirmingham. Yn 1845 aeth i Ffrainc i weithio o dan M. Labruere a sefydlodd weithfeydd peiriannau a gweithfeydd haearn yn Havre am oddeutu 4 blynedd cyn iddynt gau. Yma y crewyd llawer o'r cledrau ar gyfer y rheilffordd o Havre i Baris. Derbyniodd batentau ar gyfer y propelar sgriw (i yrru llongau) yn 1835, peiriant caboli a llyfnu gwydr yn 1836 a nifer o batentau eraill a oedd yn ymwneud â nyts a bolltau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Robert Griffiths, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.