Bardd, ysgrifwr, a chyfieithydd Americanaidd oedd Robert Elwood Bly (23 Rhagfyr 1926 – 21 Tachwedd 2021) a fu'n nodedig fel un o arweinwyr y mudiad dynion mythopoeig.
Cyhoeddodd ryw hanner cant o gyfrolau yn ystod ei oes.
Robert Bly | |
---|---|
Roberty Bly ar y llwyfan yng nghystadleuaeth Poetry Out Loud, ym Minnesota, yn 2009. | |
Ganwyd | Robert Elwood Bly 23 Rhagfyr 1926 Lac qui Parle County |
Bu farw | 21 Tachwedd 2021 Minneapolis |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ieithydd, bardd, cyfieithydd, ysgrifennwr |
Swydd | Poet Laureate of Minnesota |
Adnabyddus am | Iron John: A Book About Men |
Priod | Carol Bly |
Plant | Eloisa James |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Anvil Award, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr, Ysgoloriaethau Fulbright, Gwobr Tranströmerpriset |
Gwefan | http://www.robertbly.com/ |
Ganed ef yn Lac qui Parle County, yng ngorllewin Minnesota, i deulu o dras Norwyaidd. Graddiodd o'r uwchysgol yn ninas fechan Madison, Minnesota, ym 1944, a gwasanaethodd yn Llynges yr Unol Daleithiau am ddwy flynedd. Astudiodd yng Ngholeg St Olaf yn Northfield, Minnesota, am un flwyddyn cyn iddo drosglwyddo i Brifysgol Harvard. Derbyniodd ei radd baglor ym 1950, a threuliodd sawl blwyddyn yn Efrog Newydd yn darllen barddoniaeth. Aeth i Brifysgol Iowa i ennill gradd meistr o weithdy'r llenorion ym 1956, ac yna dychwelodd i Madison. Ym 1956–7 derbyniodd gymrodoriaeth i deithio i Norwy. Priododd â'r awdures Carol McLean ym 1955 a chawsant bedwar plentyn cyn iddynt ysgaru ym 1979. Ailbriododd Bly â therapydd o'r enw Ruth Ray ym 1980.
Ym 1958 cyd-sefydlodd Bly gylchgrawn barddoniaeth o'r enw The Fifties, a fyddai'n para am sawl degawd arall dan yr enwau The Sixties, The Seventies, a The Eighties. Daeth i'r amlwg am ei brotestiadau barddonol yn erbyn ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam, ac enillodd Wobr Genedlaethol y Llyfr am ei gyfrol The Light Around the Body (1968). Yn y 1970au ysgrifennodd 11 o lyfrau, gan gynnwys casgliadau o gerddi, ysgrifau, a chyfieithiadau, ac yn y 1980au a'r 1990au cyhoeddodd 27 cyfrol arall. Ei lyfr enwocaf, mae'n debyg, yw Iron John: A Book About Men, cyfrol sydd yn tynnu ar fythau, chwedloniaeth, barddoniaeth, a'r gwyddorau mewn ymdrech yr awdur i ddadlau dros adfer gwrywdod. Ystyrir Iron John yn brif destun y mudiad dynion mythopoeig, a fu'n cynnig hunangymorth i ddynion Americanaidd.
Yn ogystal â'i farddoniaeth wreiddiol a'i ryddiaith, cyfieithai Bly sawl cerddi, nofel, a drama i'r Saesneg, gan gynnwys gweithiau'r beirdd Rainer Maria Rilke, Tomas Tranströmer, Pablo Neruda, ac Antonio Machado, y nofel Sult gan Knut Hamsun, a'r ddrama Peer Gynt gan Henrik Ibsen. Yn 2008 penodwyd Bly yn fardd llawryfog cyntaf Minnesota gan y Llywodraethwr Tim Pawlenty. Bu farw Robert Bly yn ei gartref ym Minneapolis yn 94 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Robert Bly, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.