Roedd Richard Hughes (19 Ebrill 1900 – 28 Ebrill 1976) yn nofelydd a bardd yn yr iaith Saesneg ac yn gymydog i Dylan Thomas ym mhentref Talacharn.
Ysgrifennodd hefyd nifer o storiau byrion a dramâu.
Richard Hughes | |
---|---|
Ganwyd | Richard Arthur Warren Hughes 19 Ebrill 1900 Weybridge |
Bu farw | 28 Ebrill 1976 Talsarnau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, bardd, nofelydd, ysgrifennwr, dramodydd, sgriptiwr |
Adnabyddus am | A High Wind in Jamaica, Danger |
Tad | Arthur Hughes |
Mam | Louisa Grace Warren |
Priod | Frances Catharine Ruth Bazley |
Plant | Robert Elystan-Glodrydd Hughes, Penelope Hughes, Lleky Susannah Hughes, Catherine Phyllida Hughes, Owain Gardner Collingwood Hughes |
Gwobr/au | OBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Ganwyd yn Walton-on-Thames, Surrey. Gwas sifil oedd ei dad Arthur a ganed ei fam Louisa Grace Warren yn Jamaica. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Charterhouse, Godalming, Surrey a graddiodd yng Ngholeg Oriel, Rhydychen yn 1922.
Yn Rhydychen cyfarfu Robert Graves, a chyd-olygodd y ddau gylchgrawn ar farddoniaeth (Oxford Poetry) yn 1921. Sgwennodd ddrama fer The Sisters' Tragedy a lwyfanwyd yn Theatr y Royal Court, yn y West End yn 1922. Ef hefyd oedd y cyntaf i sgwennu drama radio; comisiynwyd Danger gan y BBC a chafodd ei darlledu ar 15 Ionawr 1924. Bu farw yn Nhalsarnau, Gwynedd
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Richard Hughes (nofelydd), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.