Digrifwr Cymreig yw Rhod Gilbert (ganwyd 18 Hydref 1968) a gychwynodd fel digrifwr stand-yp cyn mynd ymlaen i ymddangos a chyflwyno nifer o raglenni teledu a radio.
Rhod Gilbert | |
---|---|
Ganwyd | Rhodri Paul Gilbert 18 Hydref 1968 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, digrifwr stand-yp |
Fe'i enwebwyd am Wobr Newydd-Ddyfodiad Gorau Perrier yn 2005 ac yn 2008, fe'i enwebwyd am y brif Wobr Comedi Caeredin.
Ganwyd Rhodri Paul Gilbert yng Nghaerfyrddin yn un o dri o blant. Roedd ei fam a'i dad yn athrawon. Aeth i Ysgol Maridunum ac yna ymlaen i astudio ieithoedd ym Mhrifysgol Caerwysg. Am y tair wythnos gyntaf yn y coleg roedd ei swildod cymaint fel na allodd fwyta gyda gweddill y myfyrwr yn y cantîn, na gwneud ffrindiau gyda'r myfyriwr yn y stafell drws nesaf.
Wedi iddo raddio teithiodd cryn dipyn, yn enwedig gwledydd Awstralia ac Asia. Dychwelodd i Gaerfyrddin ar ôl blwyddyn a chafodd ei benodi i wneud gwaith gweinyddol yn y Y Swyddfa Gymreig.
Dechreuodd weithio fel digrifwr proffesiynol yn 2002.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhod Gilbert, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.