O fewn mathemateg ac electroneg digidol, rhif deuaidd (weithiau: 'rhif deuol') yw nifer a fynegir yn y system rhif bôn-2 neu'r system rhifau deuaidd, sy'n defnyddio dim ond dau symbolau 0 (sero) ac 1 (un).
Patrwm degol | Rhif deuaidd |
---|---|
0 | 0 |
1 | 1 |
2 | 10 |
3 | 11 |
4 | 100 |
5 | 101 |
6 | 110 |
7 | 111 |
8 | 1000 |
9 | 1001 |
10 | 1010 |
11 | 1011 |
12 | 1100 |
13 | 1101 |
14 | 1110 |
15 | 1111 |
Cyfeirir at bob digid fel bit. Oherwydd ei ddefnydd syml o fewn cylchedau electronig, digidol, mae'r system ddeuaidd yn cael ei defnyddio gan bron pob cyfrifiadur modern a dyfeisiau cyfrifiadurol.
Astudiwyd y system rhif ddeuaidd yn Ewrop yn yr 16g a'r 17g gan Thomas Harriot, Juan Caramuel y Lobkowitz a Gottfried Leibniz. Fodd bynnag, mae systemau sy'n gysylltiedig â rhifau deuaidd wedi ymddangos yn gynharach mewn sawl diwylliant gan gynnwys yr Aifft, Tsieina ac India. Ysbrydolwyd Leibniz yn benodol gan y I Ching.
Pan ddefnyddir rhifolion Arabaidd (dull gweledydd y Gorllewin), mae rhifau deuaidd fel arfer yn cael eu sgwennu gan ddefnyddio'r symbolau 0 ac 1.
Gall unrhyw rif gael ei gynrychioli, neu ei fynegi, gan gyfres o ddarnau (neu 'ddigidau deuaidd'), a all fod yn eu tro'n cael eu cynrychioli gan unrhyw fecanwaith sy'n gallu bod mewn dau gyflwr sy'n unigryw (two mutually exclusive states). Gellir dehongli unrhyw un o'r rhesi o symbolau canlynol fel gwerth rhifol deuaidd o 667:
1 | 0 | 1 | 0 | 0 | 1 | 1 | 0 | 1 | 1 |
| | ― | | | ― | ― | | | | | ― | | | | |
☒ | ☐ | ☒ | ☐ | ☐ | ☒ | ☒ | ☐ | ☒ | ☒ |
y | n | y | n | n | y | y | n | y | y |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhif deuaidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.