Lôn gul yng nghalon ganoloesol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, sy'n rhedeg yn gyfochrog â mynwent Eglwys San Silyn, yw Rhes y Deml (Saesneg: Temple Row).
Mae Rhes y Deml yn un o nifer o strydoedd cefn â chymeriad canoloesol sy’n cysylltu mynwent Eglwys San Silyn a’r Stryt Fawr ag Allt y Dref yng nghanol Wrecsam.
Mae'r lôn yn mynd o'r gorllewin i'r dwyrain o Gamfa'r Cŵn i Stryt Yorke a gellir ei chyrraedd o'r Stryt Fawr hefyd drwy Stryt yr Eglwys ac Arcêd Owrtyn.
Mae'r enw "Rhes y Deml" yn un o nifer o enwau strydoedd eglwysig yng nghanol Wrecsam, gyda Stryt yr Eglwys, Stryt yr Abad, Stryt y Priordy a College Street (yr enw Saesneg ar Gamfa'r Cŵn). Yn y gorffennol, rhannwyd Wrecsam rhwng Wrexham Abbot, eiddo'r Eglwys, a Wrexham Regis, eiddo'r Goron.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhes y Deml, Wrecsam, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.