Soprano a anwyd ym Mhontrhydyfen, Cwm Afan, Castell-nedd Port Talbot yw Rebecca Evans, CBE (ganwyd Awst 1963).
Rebecca Evans | |
---|---|
Ganwyd | 19 Awst 1963 Pontrhydyfen |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, cerddor |
Math o lais | soprano |
Gwobr/au | CBE |
Astudiodd yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, Llundain. Mae wedi perfformio'n rheolaidd gyda Opera Genedlaethol Cymru, Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden, a'r Bayerische Staatsoper, München.
Mae wedi sefydlu gyrfa opera gadarn yn yr Unol Daleithiau, lle mae wedi canu rhan Susanna (Le Nozze di Figaro) i Santa Fe Opera, Adele (Die Fledermaus) i Opera Lyric Chicago; Zerlina (Don Giovanni), Ann Trulove (The Rake’s Progress) a Adina (L'elisir d'amore) i Opera San Francisco; a Susanna a Zerlina i Dŷ Opera'r Metropolitan, Efrog Newydd.
Derbyniodd CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2020, am ei gwasanaeth i faes y celfyddydau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rebecca Evans (soprano), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.