Cofnodir rasio ceffylau, lle mae ceffylau yn rhedeg yn erbyn ei gilydd, un ai gyda marchog ar eu cefnau neu yn tynnu cerbyd, o gyfnod cynnar iawn.
Rasio cerbydau oedd y dull poblogaidd yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig, a pharhaodd yn boblogaidd yn yr Ymerodraeth Fysantaidd, gan ddenu tyrfaoedd enfawr.
Yn y cyfnod diweddar, ceffylau gyda marchogion (joci) ar eu cefnau yn rasio yw'r dull mwyaf poblogaidd yn y rhan fwyaf o wledydd. Mae'n boblogaidd dros ran helaeth o'r byd, gyda cheffylau arbennig yn cael ei magu am gyflymdra. Ceir gwaed ceffylau arabaidd yn y rhan fwyaf o'r ceffylau hyn.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rasio ceffylau, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.