Ramayana

Un o ddwy gerdd epig fawr India yw'r Ramayana; y llall yw'r Mahabharata.

Mae'n cynnwys dros 24,000 o benillion, tua 480,000 gair i gyd, mewn saith llyfr:

  • Bala Kanda – Llyfr Plentyndod
  • Ayodhya Kanda – Llyfr Ayodhya
  • Aranya Kanda – Llyfr y Fforest
  • Kishkindha Kanda – Llyfr Kishkindha
  • Sundara Kanda – Llyfr Argoelion Da
  • Yuddha Kanda – Llyfr Rhyfel
  • Uttara Kanda – Llyfr y Gogledd
Ramayana
Cerflun yn dangos golygfa o’i Ramayana; ger Angkor Wat.

Mae'r gerdd o bwysigrwydd mawr yn niwylliant India ac yn un o weithiau pwysicaf Hindŵaeth. Yn draddodiadol, enwir yr awdur fel Valmiki.

Yr arwr yw Rama, mab hynaf Dasharatha, brenin Ayodhya, ond hefyd yn ymgnawdoliad o'r duw Vishnu. Cipir ei wraig, Sita, sy'n ymgnawdoliad o'r dduwies Laxmi, gan yr ellyll Ravana, a'i charcharu ar ynys Lanca (Sri Lanca). Gyda chymorth Hanuman a'i fwncïod, llwydda Rama i'w hachub.

Cyfansoddwyd y fersiynau cynharaf yn Sansgrit. Yn ddiweddarach cafwyd fersiynau Hindi hefyd: yr enwocaf o'r rhain yw'r fersiwn gan Tulsidas (Tulasidasa) (tua 1527-1623), sydd wedi ennill ei blwyf fel clasur.

Ramayana Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Ramayana Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

IndiaMahabharata

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Kathleen Mary FerrierLinczBermudaComin WicimediaTaith y PererinAnne, brenhines Prydain FawrY Forwyn FairCaersallogOwen Morris RobertsEfrogSgethrogCattle KingArlunyddCyfieithiadau i'r GymraegCamlas SuezY GododdinRwsegBusty CopsMediUndduwiaethURLOwain WilliamsY Fari LwydY CroesgadauFfilm yn NigeriaForbesMadeleine PauliacGwasanaeth cyhoeddus (cwmni)Ceri Wyn JonesAwstEva Strautmann37Hywel DdaThe Fighting StreakFfilmLlanharanMynediad am DdimLingua Franca NovaTylluan glustiogSimbabweCyfathrach rywiolBydysawd (seryddiaeth)Ysgol Syr Hugh OwenAffganistanOn The Little Big Horn Or Custer's Last StandLlywodraeth leol yng NghymruY Chwyldro FfrengigLloegrWiciadurDafydd ap SiencynY FenniUTCEfrog NewyddCantonegThe Trouble ShooterDylunioB. T. HopkinsThe UntamedMirain Llwyd OwenMartin o ToursLlyn ClywedogLlun FarageTaekwondoTomos yr ApostolJess DaviesYnys GifftanAda LovelaceJim Driscoll🡆 More