Minato Namikaze

Yn y gyfres manga ac anime Naruto, Minato Namikaze oedd y Pedwerydd Hokage, a hefyd tad i Naruto.

Mae e hefyd yn cael ei adnabod fel y "Yellow Flash" (四代目火影 - Japaneg) oherwydd ei gyflymder; roedd Minato mor chwym, dywedai rhai ei fod yn gallu telegludo o un lle i'r llall. Roedd gan Minato y fedr i ddrechu byddinoedd llawn.

Minato Namikaze
Minato Namikaze, y Pedwerydd Hokage

Cefndir

Rhoddodd Minato ei fywyd er mwyn atal y Kyuubi rhag dinistrio Konoha yn bellach a lladd mwy o bentrefwyr. Galodd ar Gamabunta er mwyn telegludo'r Kyuubi i ardal arall, fel y gall Minato ei selio heb ymyrriaeth Madara Uchiha. Ar ôl i Gamabunta telegludo'r Kyuubi ceisiodd gwraig Minato, Kushina Uzumaki, selio'r Kyuubi tu fewn iddi hi eto, gan hi oedd y gynhwysydd blaenorol. Gan ei fod hi wedi cwympo'n feichiog gyda Naruto, fe wnaeth y sêl gwanhau ac yna llwyddodd y Kyuubi i dorri'n rhydd. Erbyn hynny, roedd Kushina ar fin maru gan yr effaith o'r Kyuubi yn torri'n rhydd. Gwirfyddolodd selio'r Kyuubi tu fewn i'w hun fel ei fydd yn marw gyda hi, ond yn lle, seliodd Minato hanner y Kyuubi tu fewn i'w hunan a hanner mewn i Naruto. Credodd taw hyn oedd yr opsiwn gorau, gan efallai bydd angen pwêr y Kyuubi ar Naruto rhyw ddydd er mwyn trechu Madara. Crëd taw plentyn y broffwyd oedd Naruto, ac yna galwodd ar Gerotora er mwyn fynd a Naruto at Jirayia.

Edrychiad

Mae'r nodweddion rhwng Naruto a Minato yn syml iawn; roedd gan Minato gwallt melyn a llygaid glas, yn union fel ei fab. Roedd yn eithaf tal, yn gwisgo gwisg arferol Ninja sef trowsus glas a siaced gwyrdd. Ar ôl dod yn Hokage, gwisgodd côt hir, gwyn gyda fflamau coch ar y gwaelod.

Personoliaeth

Yn wahanol i Naruto, roedd Minato yn eithaf osteg. Roedd yn barchus tuag at y bobl o'i gwmpas, ac wedi cael ei ystyried fel person neis iawn. Hokage call a deallus oedd Minato.

Tags:

AnimeMangaNaruto

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Panel solarReynoldstonAcross The Wide MissouriHalfaCynffonLlid y bledrenWaunfawrDavid Williams, Castell DeudraethRea ArtelariNwdlPortage County, OhioRhif Llyfr Safonol RhyngwladolMudiad meddalwedd rhyddGrandma's BoyBrasilSarah RaphaelEnsayo De Un CrimenDie Schwarzen Adler Von Santa FeO! Deuwch FfyddloniaidYmbelydreddTudweiliog480Busty CopsWho Framed Roger RabbitTeyrnas BrycheiniogJason Walford DaviesLlwybr Llaethog (band)Rig VedaCall of The FleshIndiana Jones and the Last CrusadeFernand LégerWordPressY rhyngrwydDurlifWilliam Ambrose (Emrys)Dicen Que Soy ComunistaSheila Copps1179Bleiddiaid a ChathodSwanzey, New HampshireUTCGlaw SiwgwrCaerdyddPARNDod allanJohn SparkesPays de la LoireNefynRhyfel yr ieithoeddHann. MündenHirtenreise Ins Dritte JahrtausendNightwatchingJens Peter JacobsenThe Disappointments RoomDangerously YoursBydysawd (seryddiaeth)Monster NightFacebookYasser ArafatCynnwys rhyddCoordinated Universal TimeIndonesiaBrenin CymruBritt OdhnerA Ostra E o VentoTair Talaith CymruBeryl GreyMelysor MalaitaEglwys Gadeiriol Abertawe🡆 More