Asana o fewn ymarferion ioga yw Pashchimottanasana (Sansgrit: पश्चिमोत्तानासन; IAST: paścimottānāsana), bathiad Cymraeg: Eistedd a Phlygu Mlaen.
Caiff ei ystyried yn asana eistedd.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas eistedd, ioga Hatha |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit paschima (पश्चिम, paścima) sy'n golygu yn y cyswllt yma "cefn y corff"; uttana (उत्तान, uttāna) sy'n golygu "ymestyn dwys" neu "sythu"; ac asana (आसन, āsana) sy'n golygu "osgo" neu "siap y corff"
Disgrifir yr ystum yn Ioga Hatha Pradipika o'r 15g, pennod 1, adnodau 28-29.
Mae'r ystum yn dilyn y Dandasana (Y Ffon) trwy blygu ymlaen o'r cluniau heb straenio, a gafael yn y traed neu waelod y coesau. Gellir gosod strap o amgylch y traed a'i ddal yn y dwylo os yw'r cefn yn anystwyth. Gellir gorffwys y pen ar flanced wedi'i blygu neu ei godi ar stôl fach os oes angen.
Dylai pobl sy'n cael anhawster plygu eu cefnau fod yn ofalus wrth berfformio'r asana hwn.
Mae Urdhva Mukha Paschimottanasana, a elwir hefyd yn Ubhaya Padangusthasana, yn ffurf gydbwyso o'r asana yma, lle mae'r coesau a'r dwylo'n pwyntio i fyny.
Parivritta Paschimottanasana yw ffurf wrthdro yr ystum; yma, mae'r corff wedi'i droelli i un ochr a'r dwylo'n cael eu gwrthdroi, fel os yw'r corff yn cael ei droi i'r chwith, bod y llaw dde yn gafael yn y droed chwith, mae'r penelin dde dros y pen-glin chwith, a'r llaw chwith yn gafael yn y droed dde.
Mae gan Trianga Mukhaikapada Paschimottanasana un goes wedi'i phlygu fel yn Virasana.
Mae gan Ardha Baddha Padma Paschimottanasana un goes wedi'i chroesi dros y llall fel yn Padmasana.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Paschimottanasana, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.