Pampa

Y Pampas (pampa : benthycair o'r iaith Quechua, sy'n meddwl gwastadedd) yw'r gwastadeddau ffrwythlon yn iseldiroedd De America sy'n cynnwys taleithiau Buenos Aires, La Pampa, Santa Fe, a Córdoba yn yr Ariannin, rhan helaeth o Wrwgwái, a phwynt deheuol Brasil, sef y Rio Grande do Sul, ac sy'n cynnwys dros 750,000 km² (290,000 milltir sgwar).

Dim ond bryniau isel Ventana a Tandil ger Bahía Blanca a Tandil(Ariannin), sy'n cyrraedd 1,300 m a 500m, sy'n torri ar undonedd y gwastadeddau anferth hyn. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol, gyda rhwng 600 a 1,200 mm o law, sy'n syrthio trwy'r flwyddyn ac sy'n gwneud y pridd yn addas ar gyfer amaethyddiaeth.

Pampa
Pampa
Mathgwastatir, Stepdir, bïom Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLa Plata lowland Edit this on Wikidata
Gwladyr Ariannin, Brasil, Wrwgwái Edit this on Wikidata
Uwch y môr160 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35°S 62°W Edit this on Wikidata
Pampa
Golygfa o'r awyr o lynnoedd y Pampas (ger Buenos Aires)

Oherwydd y tanau niferus sy'n torri allan yn lleol, dim ond planhigion llai fel gwair sy'n tyfu yno a phrin yw'r coed. Mae "Gwair Pampas" (Cortaderia selloana) yn blanhigyn sy'n nodweddiadol o'r Pampas. Mae'r Pampas yn gartref i ystod eang o rywogaethau brodorol eraill, ac eithrio coed brodorol, sydd ddim ond i'w cael ar hyd yr afonydd.

Gellid rhannu'r pampas yn dair ardal ecolegol. Gorwedd safana Wrwgwái i'r gorllewin o afon Wrwgwái, ac mae'n cynnwys y cyfan o Wrwgwái a rhan ddeheuol Rio Grande do Sul ym Mrasil. Mae'r Pampas Gwlyb yn cynnwys dwyrain talaith Buenos Aires, a de talaith Entre Rios. Mae'r Pampas Sych, lled-anial, yn cynnwys gorllewin talaith Buenos Aires a rhannau o dalaith Santa Fe, Cordoba, a La Pampa yn yr Ariannin. Mae'r Pampas yn ffinio ar weirdiroedd espinal yr Ariannin.

Ar bampas canolbarth yr Ariannin ceir busnesau amaethyddol llwyddiannus, gyda chnydau'n cael eu tyfu ar y Pampas i'r de a'r gorllewin o Buenos Aires. Mae ffawydd soi yn nodweddiadol a phwysig. Mae rhan helaeth yr ardal yn gartref i ffermydd lle megir gwartheg yn ogystal. Ond mae llifogydd yn broblem ar y tiroedd amaethyddol artiffisial hyn.

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Tags:

AmaethyddiaethArianninBahía BlancaBrasilDe AmericaKm²La PampaPriddQuechuaRio Grande do SulTalaith Buenos AiresTalaith CórdobaTalaith Santa FeWrwgwái

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

2021Afon TafwysY gosb eithafCalendr GregoriNeopetsDiltiasemWoody GuthrieY Byd ArabaiddThe Private Life of Sherlock HolmesY MedelwrGronyn isatomigThe Mayor of CasterbridgeImmanuel KantLead BellyIestyn GeorgeTwrciAnd One Was BeautifulVery Bad ThingsPlaid Ddemocrataidd (Unol Daleithiau)Bill BaileyAmgueddfa Genedlaethol Awstralia1696ShooterAlphonse DaudetJohn Frankland RigbyDiffyg ar yr haulPOW/MIA Americanaidd yn FietnamTutsiWikipediaWicipedia CymraegKundunThere's No Business Like Show BusinessRobert RecordeCrëyr bachTaekwondo27 HydrefCamriHinsawddThelma HulbertMordiroHunan leddfuLe Conseguenze Dell'amoreCodiadEagle EyeY Blaswyr FinegrThomas Henry (apothecari)My MistressJim MorrisonJohn SullivanEn attendant les hirondellesPrifadran Cymru (rygbi)Kim Il-sungShowdown in Little TokyoWiciYnysoedd MarshallPisoRhestr Cymry enwogCastlejordan, Sir Meath, Gweriniaeth IwerddonCymdeithas sifilRMS TitanicFfilm llawn cyffroH. G. WellsEd SheeranSands of Iwo JimaDestins Violés800Yr Eglwys Gatholig RufeinigSaesnegAnimeiddioSgifflHumphrey LytteltonCanadaTwitter🡆 More