Pensaer ac awdur o dras Cymreig oedd Owen Jones (15 Chwefror 1809 – 19 Ebrill 1874).
Roedd yn un o arloeswyr chromolithograffeg.
Owen Jones | |
---|---|
Ganwyd | 15 Chwefror 1809 Llundain |
Bu farw | 19 Ebrill 1874 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer, cynllunydd, darlunydd, goleuwr |
Adnabyddus am | The Crystal Palace, Grammaire de l’ornement, 1865, The Grammar of Ornament, The Book of Common Prayer, and Administration of the Sacraments, and other Rites and Ceremonies of the Church, according to the Use of the United Church of England and Ireland, with Notes., The Sermon on the Mount, Ancient Spanish Ballads |
Gwobr/au | Medal Aur Frenhinol |
Ganed ef yn Llundain, yn fab i Owen Jones (Owain Myfyr). Wedi iddo gael ei brentisio i swyddfa pensaer am chwe blynedd, treuliodd bedair blynedd yn teithio yn yr Eidal, Gwlad Groeg, Twrci, yr Aifft a Sbaen. Gwnaeth astudiaeth arbennig o'r Alhambra yn Granada.
Wedi dychwelyd i Lundain yn 1836, bu'n gweithio fel pensaer, yn arbenigo mewn tu mewn adeiladau. Roedd yn un o'r arolygwyr ar gyfer Arddangosfa 1851 ac yn gyfrifol am addurno'r Palas Grisial. Sefydlodd y Museum of Manufacturers, rhagflaenydd y Amgueddfa Victoria ac Albert. Yn 1856 cyhoeddodd ef a'r Arglwydd Brougham gynllun ar gyfer "Palas y Bobl", a gwblhawyd yn 1873 fel yr Alexandra Palace.
Cyhoeddodd ei lyfr pwysicaf, The Grammar of Ornament yn 1856, a chafodd ddylanwad mawr trwy gyflwyno gwaith celf addurnol o wledydd y dwyrain i'r gorllewin.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Owen Jones (pensaer), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.