Telynor a chyfansoddwr o Gymro oedd Osian Gwynn Ellis CBE (8 Chwefror 1928 – 5 Ionawr 2021).
Osian Ellis | |
---|---|
Ganwyd | 8 Chwefror 1928 Ffynnongroyw |
Bu farw | 5 Ionawr 2021 Pwllheli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, athro cerdd, telynor |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE |
Ganwyd yn Ffynnongroyw, Sir Fflint, Cymru yn 1928, yn fab i T. G. Ellis, gweinidog gyda’r Wesleaid. Astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol dan law Gwendolen Mason. Yn ddiweddarach dilynodd hi fel Athro ar y delyn o 1959 tan 1989 yn yr Academi. Ymunodd â Cherddorfa Symffoni Llundain yn 1961 a ef oedd eu prif delynor. Roedd yn aelod o'r Melon Ensemble, ac ef a ffurfiodd Ensemble Telyn Osian Ellis.
Ef oedd Llywydd Anrhydeddus Gwyl Telyn Rhyngwladol Cymru [
Bu’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru. Derbyniodd anrhydeddau lu gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Bangor a gwobrau haeddiannol gan brif sefydliadau cerddorol y genedl, a’r CBE gan y Frenhines. Fel athro telyn, dylanwadodd ar genedlaethau o gerddorion a thelynorion, yn ei plith Elinor Bennett a Sioned Williams.
Yn dilyn dathlu ei ben blwydd yn 90 oed, cyfansoddodd ddau waith newydd : "Cylch o Alawon Gwerin Cymru" (ar gyfer Bryn Terfel a Hannah Stone) a’i waith i delyn "Lachrymae".
Roedd ganddo chwaer hŷn, Elfrys. Roedd yn briod a Rene ac roedd ganddynt ddau fab - Richard Llywarch a Tomos Llywelyn (a fu farw yn 2009).
Bu farw ar 5 Ionawr 2021, yn 92 mlwydd oed, yn ei gartref yn Arfryn, Pwllheli. Cynhaliwyd ei angladd ar 15 Ionawr 2021 ac fe'i gladdwyd ym Mynwent Aberdaron.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Osian Ellis, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.