Olaf Scholz

Gwleidydd Almaenig yw Olaf Scholz (ganed 14 Mehefin 1958) sydd yn gwasanaethu yn swydd Canghellor yr Almaen ers 8 Rhagfyr 2021.

Mae'n aelod o Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol yr Almaen (SPD).

Olaf Scholz
Olaf Scholz
Olaf Scholz ym Medi 2021.
Ganwyd14 Mehefin 1958 Edit this on Wikidata
Osnabrück Edit this on Wikidata
Man preswylRahlstedt, Potsdam Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Hamburg Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddFederal Minister of Labour and Social Affairs, First Mayor of Hamburg, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Aelod o Bundestag yr Almaen, Senator of the Interior, Member of the 21st Hamburg Parliament, Secretary General of the SPD, Federal Minister of Finance, Commissioner for Franco-German Cooperation, Aelod o Bundestag yr Almaen, Vice-Chancellor of Germany, Canghellor Ffederal Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Zentralverband der deutschen Konsumgenossenschaften Edit this on Wikidata
Taldra170 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
TadGerhard Scholz Edit this on Wikidata
MamChristel Scholz Edit this on Wikidata
PriodBritta Ernst Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Time 100, Gwobr Time 100, Global Citizen Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olaf-scholz.spd.de Edit this on Wikidata
llofnod
Olaf Scholz

Ganed ef yn Osnabrück yn nhalaith Niedersachsen, yng Ngorllewin yr Almaen, a chafodd ei fagu yn Hamburg. Ymunodd â'r SPD ym 1975, pan oedd yn yr ysgol, a byddai'n weithgar mewn gwleidyddiaeth yn ei ieuenctid. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Hamburg o 1978, a derbyniodd ei ddoethuriaeth yn y gyfraith yno ym 1984. Gwasanaethodd yn is-gadeirydd Jusos—mudiad ieuenctid yr SPD—o 1982 i 1988. Gweithiodd yn gyfreithiwr, gan arbenigo mewn cyfraith lafur a chyflogaeth.

Etholwyd Scholz i'r Bundestag yn gyntaf ym 1998, yn aelod o'r SPD dros etholaeth Hamburg Altona, a bu yn y sedd honno nes 2011. Yn y cyfnod hwnnw, gwasanaethodd yn ysgrifennydd cyffredinol yr SPD o 2002 i 2004, yn ystod canghelloriaeth Gerhard Schröder, ac yn weinidog ffederal dros lafur a materion cymdeithasol, yng nghabinet cyntaf Angela Merkel, o 2007 i 2009. Ymddiswyddodd Scholz o'r Bundestag wedi iddo gael ei ethol yn Brif Faer Hamburg ym Mawrth 2011. Gwasanaethodd yn y swydd honno am ddau dymor, hyd at 2018.

Ar 14 Mawrth 2018, un diwrnod wedi iddo ildio swydd Maer Hamburg, penodwyd Scholz yn Is-Ganghellor yr Almaen ac yn weinidog ariannol ffederal ym mhedwaredd lywodraeth Angela Merkel. Yn 2020 fe'i enwebwyd yn ymgeisydd yr SPD i olynu Merkel yn ganghellor yn yr etholiad ffederal i'w chynnal ym Medi 2021. Yn sgil ennill y nifer fwyaf o seddi seneddol gan un blaid—dychwelodd Scholz ei hun at y Bundestag fel aelod dros Potsdam a'r cylch—ffurfiodd yr SPD lywodraeth glymblaid â'r Gwyrddion a'r Blaid Ddemocrataidd Rydd, ac ar 8 Rhagfyr 2021 etholwyd Scholz yn Ganghellor yr Almaen gan yr 20fed Bundestag a phenodwyd ei gabinet i lywodraethu gan yr Arlywydd Frank-Walter Steinmeier.

Cyfeiriadau

Tags:

14 Mehefin1958AlmaenwyrCanghellor yr AlmaenGwleidydd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Rhestr CernywiaidGirolamo SavonarolaMiguel de CervantesRhyfel Sbaen ac AmericaCwmwl OortHwyaden ddanheddog1616Hello Guru Prema KosameTrais rhywiolFfloridaAlldafliad benywRhestr o bobl gyda chofnod ar y Bywgraffiadur Cymreig Arlein25 Ebrill1855Saunders LewisGeorge WashingtonDiwrnod y LlyfrSwedegYr Ail Ryfel BydGorwelLleiandyRhyw llaw1 EbrillDinas SalfordHarry Potter and the Philosopher's Stone (ffilm)Malavita – The FamilyBois y BlacbordY we fyd-eangFideo ar alwGeorge CookeYr AlbanMynydd IslwynNorwyegThe Disappointments RoomY DiliauCynnwys rhyddSafleoedd rhywRichard Bryn WilliamsDyn y Bysus EtoPeredur ap GwyneddRwmanegWcráinComin WicimediaRhodri LlywelynWhatsAppJimmy WalesRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrAbermenaiHen Wlad fy Nhadau1887I am Number FourBarack ObamaYnniAlecsander FawrPussy Riot1724Aderyn ysglyfaethus365 DyddOlewydden69 (safle rhyw)Y Rhyfel OerSupport Your Local Sheriff!Tom Le Cancre1800 yng NghymruCathGwilym Roberts (Caerdydd)🡆 More