Emosiwn neu deimlad cryf ac annymunol a achosir gan berygl y credir ei fod ar ddigwydd yw ofn.
Mae'n un o'r emosiynau mwyaf gwaelodol yn y meddwl dynol. Ar lefel seicosomatig gellid ei ystyried yn fecanwaith amddiffyn mewn dyn, ac mewn anifeiliaid hefyd.
Mae ofn wedi chwarae rhan ganolog mewn sawl damcaniaeth athronyddol, o ddyddiau Plato ymlaen. Yn ei Glaucon, mae Plato yn dadlau fod ofn canlyniadau ein gweithredoedd yn ein hatal rhag cyflawni drygioni ac felly yn beth da mewn cymdeithas. Ond mae Aristotlys yn dilyn trwydded arall gan ddadlau fod gormod o ofn mewn dyn a chymdeithas yn creu llyfndra a gwaseidd-dra, tra bod diffyg ofn yn arwain at weithredoedd gorffwyll; dylai dewrder gael ei fesuro yn ôl y ffordd mae rhywun yn ymdopi ag ofn oherwydd nid yw osgoi ofn yn bosibl mewn bod rhesymol.
Dadleuodd yr athronydd gwleidyddol Thomas Hobbes fod ofn ein gilydd ac, yn nes ymlaen, ofn pennaeth neu frenin, yn creu cymdeithas. Dadleuir hefyd fod ofn yn deimlad sydd wedi esblygu dros miloedd o flynyddoedd er mwyn cadw pobl mewn trefn ac i fihafio.
Mewn crefydd, yn arbennig yn y crefyddau mawr undduwiaethol, mae "parchedig ofn" at Dduw yn elfen sylfaenol. Yn Llyfr Job a rhai llyfrau eraill yn y Beibl, sonnir am Lefiathan, yr anifail anhygoel o fawr a grëwyd gan Dduw i greu ofn ar bobl, yn enwedig y balch; cyfeirir at Lefiathan fel duw meidrol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ofn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.