Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Niedersachsen.
Fe'u lleolir yng ngogledd-orllewin yr Almaen ar Fôr y Gogledd, gyda ffiniau (yn glocwedd o'r gogledd) â thaleithiau Schleswig-Holstein, Hamburg, Mecklenburg-Vorpommern, Brandenburg, Sachsen-Anhalt, Thüringen, Hessen, a Nordrhein-Westfalen, ac a'r Iseldiroedd yn y gorllewin. Mae'n ail fwyaf o ran arwynebedd tir ymysg taleithiau'r Almaen. Ei phrifddinas yw Hannover. Er eu bod yn ymestyn yn ddwfn i fewn i Niedersachsen, nid yw ardaloedd trefol Bremen (gan gynnwys Bremerhaven) a Hamburg yn llunio rhan o'r dalaith.
Arwyddair | Niedersachsen. Klar. |
---|---|
Math | taleithiau ffederal yr Almaen |
Enwyd ar ôl | Sacsoniaid |
Prifddinas | Hannover |
Poblogaeth | 8,003,421 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Stephan Weil |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Tokushima |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 47,614.07 km² |
Uwch y môr | 13 metr |
Gerllaw | Môr y Gogledd, German Bight |
Yn ffinio gyda | Bremen, Schleswig-Holstein, Hamburg, Mecklenburg-Vorpommern, Brandenburg, Sachsen-Anhalt, Thüringen, Hessen, Nordrhein-Westfalen, Groningen, Drenthe, Overijssel |
Cyfesurynnau | 52.7561°N 9.3931°E |
DE-NI | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Landtag of Lower Saxony |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Minister-President of Lower Saxony |
Pennaeth y Llywodraeth | Stephan Weil |
Ymysg ei dinasoedd mwyaf mae Hannover, Braunschweig, Osnabrück, Oldenburg a Göttingen. Mae'r afonydd Ems, Weser, Aller ac Elbe yn llifo o'r de i'r gogledd drwy Niedersachsen.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Niedersachsen, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.