Minecraft

Mae Minecraft yn gêm cyfrifiadur a grëwyd yn wreiddiol gan y rhaglennwr Swedeg Markus Notch Persson ac wedyn datblygwyd a chyhoeddwyd gan Mojang.

Minecraft
Enghraifft o'r canlynolgêm fideo, esports discipline Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebvoxel-based survival sandbox Edit this on Wikidata
CrëwrMarkus Persson Edit this on Wikidata
CyhoeddwrXbox Game Studios Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi18 Tachwedd 2011 Edit this on Wikidata
Genregêm goroesi, gêm antur ac ymladd, gêm pwll tywod Edit this on Wikidata
CyfresMinecraft Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMinecraft: Java Edition, Minecraft: Bedrock Edition, Minecraft: Legacy Console Edition, Minecraft: New Nintendo 3DS Edition, Minecraft: Education Edition, Minecraft: Pi Edition, Minecraft Earth, Minecraft modding Edit this on Wikidata
SylfaenyddMarkus Persson Edit this on Wikidata
CyfansoddwrC418, Lena Raine, Gareth Coker, Kumi Tanioka Edit this on Wikidata
DosbarthyddNintendo eShop, PlayStation Store, Microsoft Store, Google Play, App Store Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.minecraft.net Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Minecraft yn gêm lle mae'r chwaraewyr yn gallu creu eu profiad eu hun. Mae'r chwaraewr yn cloddio ac adeiladu blociau lliw i greu byd o wahanol diroedd ac wedyn yn ceisio i'w fentro trwodd. Mae pob buwch yn minecraft yn fenywaidd gan eu bod i gyd yn gallu cynhyrchu llefrith. Mae'r haul yn codi ac yn nosi ac mae'r tywydd yn newid wrthi i'r chwaraewr fynd at i gasglu adnoddau a gwneud offer. Mae anifeiliaid i'w ffermio neu ddefnyddio am fwyd, gan ddibynnu ar ba modd sydd wedi'i ddewis bydd angen ymladd i gadw'n fyw yn erbyn peryglon a'r cymeriadau drwg.

Fe lansiwyd y fersiwn prawf ar gyfer datblygwyr ym Mai 2009 a lansiwyd y fersiwn i'r cyhoedd yn 2011 ar gyfer PC, Mac ac Android. Rhyddhawyd fersiwn ar gyfer Xbox yn 2012 ac ar gyfer PlayStation 3 yn 2013. Mae'r holl fersiynau o Minecraft yn derbyn diweddariadau cyson.

Yn 2012 rhyddhawyd set Lego a seiliwyd ar Minecraft o'r enw Lego Minecraft.

Poblogrwydd

Erbyn 2015 roedd Minecraft wedi gwerthu 70 miliwn o gopïau gan ei wneud yn un o'r gemau mwyaf poblogaidd erioed. Yn 2014 fe brynwyd Mojang a Minecraft gan Microsoft am $2.5 biliwn.

Chwarae

Minecraft 
Bloc Minecraft

Ar ddechrau'r gêm, mae'r chwaraewr yn cael ei osod ar wyneb byd di-ben-draw. Mae'r byd wedi'i rannu i biomes sy'n cynnwys anialwch, jyngl, fforestydd ac eira. Mae system amser y gêm yn dilyn dydd a nos, gydag un cylch cyfan yn parhau 20 munud. Yn ystod y gêm mae'r chwaraewyr yn dod ar draws mobs o gymeriadau yn cynnwys anifeiliaid, pentrefwyr a chreaduriaid gelyniaethus.

Mae'r anifeiliaid fel moch, gwartheg ac ieir yn gallu cael eu hela am fwyd ac yn ymddangos yn y dydd. Yn y nos mae mobs drwg fel zombîs, ysgerbydau a phryfed cop yn ymddangos.

Mae sawl modd ar gael, yn cynnwys survival mode ble mae rhaid i'r chwaraewr gasglu adnoddau i adeiladu'r byd a chadw'n fyw, creative mode ble mae chwaraewr yn cael cyflenwad di-ddiwedd o adnoddau i adeiladu, adventure mode ble mae chwaraewyr yn defnyddio mapiau a grëwyd gan bobl eraill, spectator mode ble mae chwaraewyr yn hedfan drwy blociau ond ddim yn cael gosod blociau a'r hardcore mode ble mae chwaraewyr o dan berygl o farw am byth. Mae'r fersiwn PC o'r gêm yn adnabyddus am y nifer fawr o ychwanegion sy'n rhoi mwy o gymeriadau a heriau.

Minecraft yn Gymraeg

Mae Minecraft: Java Edition wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg gan gefnogwyr trwy brosiect cyfieithu swyddogol Mojang ar Crowdin.

Gweler hefyd

  • Creeper (Minecraft)
  • Steve (Minecraft)

Cyfeiriadau

Tags:

Minecraft PoblogrwyddMinecraft ChwaraeMinecraft yn GymraegMinecraft Gweler hefydMinecraft CyfeiriadauMinecraft

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Wicipedia1 MawrthCyfathrach rywiolBertie Louis CoombesClasuriaethCyflafan y blawdMySpaceSorelaWaltham, MassachusettsFfilm llawn cyffroThe Salton SeaTudur Dylan JonesThiaminCelt (band)IseldiregThe Murder of Sadie HartleySbaenY Tŷ GwynWilliam Jones (ieithegwr)Robert Roberts (awdur)Yr EidalAshdodFfilmCasinoThis Ain’t American Horror Story XxxAwstriaBora BoraLlanberisRhyw llawHermano Del Espacio1255Lee TamahoriBwlbwl rhesog y GorllewinCleopatra (gwahaniaethu)Eisteddfod Genedlaethol CymruY Cenhedloedd UnedigMaerDryw EurbenEglwys Sant TeiloJoy LavilleCynulliad Cenedlaethol CymruISO 3166-1Hayden PanettiereFfilm bornograffigMeilir GwyneddRathmullanCi sbitsAberdaugleddauCedorCian CiaránCwsg1327ISO 4217Monsters, Inc.Ben StillerBarney's Great AdventureEagle EyeHenry BolingbrokeOtesánekMaria Leonor de Sousa Gonçalves🡆 More