Awdures o Gymru yw Megan Angharad Hunter (ganwyd 12 Medi 1998).
Megan Angharad Hunter | |
---|---|
Ganwyd | 12 Medi 1998 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Gwobr/au | Llyfr y Flwyddyn |
Mae Megan Angharad Hunter yn ferch i Judith Humphreys a Jerry Hunter, a chafodd ei magu yn ardal Dyffryn Nantlle cyn mynd ymlaen i astudio'r Gymraeg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n chwarae'r ffliwt.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Tu ôl i'r Awyr yn 2020. Enillodd y gyfrol prif wobr Llyfr y Flwyddyn 2021.
Enillodd gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2020/2021, gydag ysgrif hir ar thema Mwgwd/Mygydau dan y ffug-enw Lina. Ysgrifennwyd y gwaith cyn Pandemig COVID-19, ond gwobrwywyd Megan Angharad Hunter yn hwyr oherwydd gohirio'r Eisteddfod. Mae'r gwaith yn ymdrin â Newid hinsawdd ac yn defnyddio arddull ôl-apocalyptaidd.
Bu'n cydweithio ar brosiect Pump gyda 9 o awduron eraill.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Megan Angharad Hunter, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.