Cantores opera soprano a mezzo-soprano Americanaidd oedd Maria Louise Ewing (27 Mawrth 1950 – 9 Ionawr 2022).
Roedd hi'n nodedig am ei hactio gymaint â'i chanu.
Maria Ewing | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mawrth 1950 Detroit |
Bu farw | 9 Ionawr 2022 Detroit |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera |
Math o lais | mezzo-soprano, soprano |
Tad | Norman I. Ewing |
Mam | Hermina M. Veraar |
Priod | Peter Hall |
Plant | Rebecca Hall |
Cafodd Ewing ei geni yn Detroit, Michigan, yr ieuengaf o bedair merch Hermina Maria (ganwyd Veraar) a Norman Isaac Ewing.
Cafodd Ewing ei addysg yn yr Ysgol Uwchradd Finney yn Detroit lle gradiodd ym 1968. Yn ddiweddarach astudiodd gydag Eleanor Steber yn Sefydliad Cerddoriaeth Cleveland.
Priododd Ewing â'r cyfarwyddwr theatr o Loegr, Syr Peter Hall (m. 2017) ym 1982, fel ei trydydd wraig. Yn ystod ei phriodas galwyd hi yn ffurfiol Lady Hall. Ysgarodd y cwpl yn 1990. Eu merch yw'r actores Rebecca Hall (g. 1982). Bu farw Ewing o ganser yn ei chartref ger Detroit yn 71 oed.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Maria Ewing, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.