Manga

Math o gomics a digrifluniau (cartŵns) ydy Manga (Siapaneg 漫画), sy'n air Japaneg.

Y tu allan i Japan mae'n golygu 'comics Siapaneaidd' yn neilltuol, ond yn Japan gelwir digrifluniau gorllewinol hefyd yn "manga". Mae'r farchnad manga wedi datblygu'n ddiwydiant anferthol, oedd yn werth tua $5.5 biliwn yn 2009 yn Japan, $250m (2012) yn Ewrop a $175m yn UDA.

Manga
Manga
Siop Manga yn Siapan
Enghraifft o'r canlynolcomic format, comic genre Edit this on Wikidata
Mathcomic Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
Rhan oanime and manga Edit this on Wikidata
Enw brodorol漫画 Edit this on Wikidata
GwladwriaethJapan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Manga
Ail argraffiad Saesneg o'r llyfr Manga InuYasha, Cyf. 1

Datblygodd Manga o gyfuniad o arddulliau ukiyo-e ac arddulliau darlunio tramor, a chymerodd ei ffurf bresennol yn fuan wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd. Fel rheol mae'r lluniau i gyd mewn du a gwyn, ac eithrio'r clawr a'r tudalennau cyntaf; yr unig eithriad yw'r ffurf hybrid Animanga, sy'n cyfuno elfennau o Fanga ac Anime ac yn lliwgar iawn.

Mathau

Ceir sawl math o fanga:

Gwreiddiau Manga

Ystyr y gair manga yn llythrenol yw "lluniau ar hap", neu "lluniau ffwrdd-â-hi". Daeth y gair i mewn i'r iaith lafar yn ystod y 18g pan gyhoeddwyd gweithiau fel Mankaku zuihitsu (1771) gan Suzuki Kankei a'r llyfr darluniau Shiji no yukikai (1798) gan Santo Kyoden. Ar ddechrau'r 19g ymddangosodd weithiau fel Manga hyakujo (1814) gan Aikawa Minwa a'r llyfr Hokusai manga sy'n cynnwys brasluniau amrywiol gan yr arlunydd ukiyo-e enwog Hokusai.

Fodd bynnag, mae'r traddodiad i'w olrhain ymhellach yn ôl i'r 12g pan dynnai sawl artist luniau giga (yn llythrennol "lluniau digrif"), ac yn neilltuol chōjū jinbutsu giga (鳥獣人物戯画, sef "lluniau digrif o bobl ac anifeiliaid"); lluniau sy'n cynnwys sawl nodwedd o'r manga gan bwysleisio'r elfennau storïol uniongyrchol a llinellau artistaidd syml ond cryf.

Yn y 19g, pan ddechreuodd yr Americanwyr fasnachu â Siapan, daeth artistiaid tramor i weithio yn y wlad a dysgu elfennau fel llinell, ffurf a lliw yn y traddodiad Gorllewinol; roedd hyn yn ddatblygiad newydd am fod ukiyo-e yn rhoi mwy o bwyslais ar y syniad tu ôl i'r llun mewn arddull llawer mwy rhydd. Gelwid Manga hybrid y cyfnod hwnnw yn Ponchi-e ("lluniau Punch") a, fel y cylchgrawn Seisnig o'r un enw, Punch, roedd yn canolbwyntio ar ddarlunio hiwmor a dychan gwleidyddol mewn cyfresi byrion o 1-4 o luniau.

Manga heddiw

Yn aml mae comics Manga poblogaidd yn cael eu haddasu ar gyfer ffilmiau anime (yn y Gorllewin gelwir Manga yn "anime" weithiau ond mae anime yn ffurf arbennig, diweddar, ar wahân). Weithiau mae anime llwyddiannus yn cael ei droi'n fanga, ond eithriad yw hynny.

Er bod nifer fawr o gomics a llyfrau Manga yn cael eu creu ar gyfer plant a phobl yn eu harddegau, camgymeriad fyddai meddwl mai comics cyffredin ydyn nhw. Mae'r Siapaneaid yn cymryd eu manga mewn difri fel ffurf artistaidd arbennig ac mae rhai arlunwyr manga yn cael eu hystyried yn artistiaid mawr. Agwedd arall ar y manga yw'r nifer fawr o lyfrau ar gyfer oedolion ar ffurf cartŵns neu ddarluniau manga, yn amrwyio o fath o nofelau hanesyddol neu ffuglen ffantasi i greadigaethau erotig (Hentai neu Lolikon).Cafodd y cylchgrawn cynta manga ei wneud gan Kanagaki Robun a Kawanabe Kyosai yn 1874.

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Ceir miloedd o wefannau sy'n ymwneud â manga. Rhoddir yma ychydig o'r rhai mwyaf ffeithiol.

Tags:

Manga MathauManga Gwreiddiau Manga heddiwManga Gweler hefydManga Dolenni allanolMangaComicJapanSiapanegUnol Daleithiau America

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

3 HydrefFfilm gyffroDiffyg ar yr haulPalesteiniaidCracer (bwyd)Harry SecombeTaekwondoHuluCeresGradd meistrSyniadJSTORYr AmerigFloridaCreampieMacOSPlanhigynIddewiaethEfydd8 TachweddAction PointInstagram2007Dinas y LlygodLee TamahoriCascading Style SheetsGemau Olympaidd yr Haf 1920Galileo Galilei1950Blood FestTerfysgaethSiambr Gladdu TrellyffaintPussy Riot2020Yr EidalJem (cantores)Shïa2018GwyddoniaethProtonMail6 IonawrLafaMy MistressBBC Radio CymruEd SheeranYr OleuedigaethCalsugnoY Groesgad GyntafMordiroMarie AntoinetteWoody GuthrieMy Pet DinosaurMeddygaethNwyAlldafliadAmp gitârMozilla FirefoxAnimeiddioTwitterAurThe TransporterEroplenManchester United F.C.Kim Il-sungLlywelyn ap Gruffudd1680SisiliSF3A3Jään KääntöpiiriIs-etholiad Caerfyrddin, 1966Etholiadau lleol Cymru 2022AsiaKal-onlineMetadata🡆 More