Abergynolwyn Llanfihangel-Y-Pennant: Pentref a chymuned ym Meirionnydd, Gwynedd

Pentref bychan a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanfihangel-y-Pennant ( ynganiad ).

Saif yn ne'r sir, heb fod ymhell o Abergynolwyn, rhwng Afon Dysynni ac Afon Cadair, ger llethrau deheuol Cadair Idris. Mae Castell y Bere, un o gadarnleoedd tywysogion Gwynedd yn y 13g, fymryn tu allan i'r pentref.

Llanfihangel-y-Pennant
Abergynolwyn Llanfihangel-Y-Pennant: Eglwys Sant Mihangel, Cyfrifiad 2011, Cyfeiriadau
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth339 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd7,749.89 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6613°N 3.9654°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000078 Edit this on Wikidata
Cod OSSH671088 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Ganed y geiriadurwr a golygydd William Owen Pughe yn y plwyf ar 7 Awst 1759. Rhodd yw prif ffenestr yr eglwys leol (gweler isod) yn 1869 i gofio am Edward Owen Pughe.

Yn 1800, cerddodd Mari Jones (neu Mary Jones) 26 milltir o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala i brynu Beibl Cymraeg gan y Parchedig Thomas Charles. Ysbrydolodd y digwyddiad yma Thomas Charles i sefydlu y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).

Eglwys Sant Mihangel

    Prif: Eglwys Sant Mihangel
Abergynolwyn Llanfihangel-Y-Pennant: Eglwys Sant Mihangel, Cyfrifiad 2011, Cyfeiriadau 

Mae siâp ofal y fynwent yn dyst fod yma eglwys llawer hŷn na'r adeilad a welir heddiw, a godwyd yng nghanrif 12. Fe'i cofrestrwyd gan Cadw ar 17 Mehefin 1966 yn Radd II*, a hynny oherwydd ei hoed a nodweddion o'r Oesoedd Canol, fel y fedyddfaen, y nenfwd a'r rhan fwyaf o'i muriau. Yng nghanrif 15 codwyd estyniad ar ochr ogleddol yr eglwys: capel bychan; yno, yn 2016 roedd arddangosfa o ddogfennau'n ymwneud â Mari Jones. Ceir darlun o 1869 o Fihangel a Gabriel o bobty Crist ar y brif ffenestr y tu ôl i'r allor.

Credir fod y fedyddfaen yn dyddio o ganrif 12 ac iddo ddod o Gastell y Bere; y tu allan i'r brif ffenestr, ceir bedd, gyda'r union yr un cerrig crwn, tebyg i golofnau.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) (pob oed) (339)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)) (174)
  
51.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)) (162)
  
47.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)) (72)
  
41.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Tags:

Abergynolwyn Llanfihangel-Y-Pennant Eglwys Sant MihangelAbergynolwyn Llanfihangel-Y-Pennant Cyfrifiad 2011Abergynolwyn Llanfihangel-Y-Pennant CyfeiriadauAbergynolwyn Llanfihangel-Y-Pennant Dolen allanolAbergynolwyn Llanfihangel-Y-Pennant13gAbergynolwynAfon DysynniCadair IdrisCastell y BereCymruCymuned (Cymru)Delwedd:Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn).oggGwyneddLlanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn).oggTeyrnas GwyneddWicipedia:Tiwtorial

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

CambodiaAfter Porn Ends 2Dydd Iau DyrchafaelCandymanRhif cymhlygMyrddinLa Ragazza Nella NebbiaThe Fighting StreakOn The Little Big Horn Or Custer's Last StandGramadegThe Perfect TeacherRaajneetiElisabeth II, brenhines y Deyrnas UnedigFfilmHanes diwylliannolCaerDave SnowdenThe Fantasy of Deer WarriorFietnamByseddu (rhyw)BeijingHolmiwmCod QRHob y Deri Dando (rhaglen)Rhestr unfathiannau trigonometrigSpring SilkwormsRhestr Papurau BroCiErnst August, brenin HannoverLeonor FiniFfloridaInstitut polytechnique de ParisTân yn LlŷnHarri StuartRobert GwilymNaturURLCysgod TrywerynArabegAffganistanAnna VlasovaCastro (gwahaniaethu)The Heart BusterParamount PicturesAmwythigTywyddStiller SommerSgethrogIago fab SebedeusCaeredinBysCyfeiriad IPEHuw ChiswellDafydd Dafis (actor)Purani KabarMET-ArtThis Love of OursSefydliad WicimediaYr Ail Ryfel BydNizhniy NovgorodRhywogaeth mewn peryglHTMLCwpan y Byd Pêl-droed 2014Elinor JonesFrom Noon Till Three🡆 More