La Marseillaise (Cân Marseille) yw anthem genedlaethol Ffrainc.
Cyfansoddwyd hi gan Rouget de Lisle yn Strasbourg fin nos y 25ain o Ebrill, wedi i Ffrainc gyhoeddi rhyfel yn erbyn Ymerawdwr Awstria. Y teitl gwreiddiol oedd Chant de guerre pour l'armée du Rhin ("Rhyfelgan i Fyddin Afon Rhein").
Cafodd y gân ei chanu am y tro cyntaf gan filwyr Marseille oedd wedi dod i Baris i gefnogi'r Chwyldro Ffrengig, a rhoddwyd yr enw La Marseillaise arni. Cyhoeddwyd La Marseillaise yn anthem genedlaethol ar 14 Gorffennaf, 1795. Dan ymerodraeth Napoleon ac ar ôl adfer y teulu brenhinol, gwaharddwyd y gân, ond wedi'r chwyldro yn 1830 fe'i gwnaed yn anthem genedlaethol eto dan y Drydedd Weriniaeth.
Defnyddiwyd y dôn ar gyfer Yr Internationale pan gyfansoddwyd geiriau y gân honno gyntaf, ond yn ddiweddarch cafodd dôn arall.
Er bod gan y gân wreiddiol nifer o benillion, dim ond y pennill cyntaf a genir yn Ffrainc fel rheol:
La Marseillaise | |
Allons, enfants de la Patrie | Dewch, blant y famwlad |
Le jour de gloire est arrivé ! | Cyrhaeddodd diwrnod gogoniant! |
Contre nous de la tyrannie | Yn ein herbyn, gormes |
L'étendard sanglant est levé. | Gododd ei baner waedlyd. (ailadrodd) |
Entendez-vous dans les campagnes | Glywch chi yn y caeau |
Mugir ces féroces soldats ? | Udo y milwyr ffyrnig? |
Ils viennent jusque dans vos bras | Maent yn dod i'ch plith |
Égorger vos fils, vos compagnes ! | I dorri gyddfau'ch meibion, eich gwragedd! |
Aux armes, citoyens ! | I'r gad, ddinasyddion! |
Formez vos bataillons ! | Ffurfiwch eich bataliynau! |
Marchons, marchons ! | Ymdeithiwn, ymdeithiwn! |
Qu'un sang impur | A boed i waed amhur |
Abreuve nos sillons ! | Ddyfrhau ein rhychau! |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article La Marseillaise, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.