Arlunydd o Gymro oedd Syr John Kyffin Williams (9 Mai 1918 – 1 Medi 2006) a adwaenwyd fel Kyffin Williams.
Kyffin Williams | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mai 1918 Llangefni |
Bu farw | 1 Medi 2006 Ynys Môn |
Man preswyl | Llangefni |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Arddull | celf tirlun |
Tad | Henry Inglis Wynne Williams |
Gwobr/au | KBE, OBE, Marchog Faglor |
Cafodd ei eni yn Llangefni, Ynys Môn. Methodd archwiliad meddygol i ymuno â'r Fyddin Brydeinig ym 1941 oherwydd ei gyflwr epilepsi, ac felly dywedodd ei feddyg wrtho i ymhél â chelf. Cyn ei farwolaeth roedd nifer yn ei ystyried yn beintiwr olew Cymreig mwyaf ei oes. Ei hoff themâu oedd tirwedd a phobl ei ardal enedigol, ond ym 1968 fe aeth i Batagonia i gofnodi'r Wladfa Gymreig yn ei gelf. Cafodd ei ethol yn aelod o Academi Frenhinol y Celfyddydau ym 1976 ac fe'i urddwyd yn Farchog Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2000. Yn ei flynyddoedd olaf trigai Kyffin Williams ym Mhwllfanogl, Ynys Môn, lle y bu iddo farw o gancr yn 2006. Claddwyd ef ym mynwent Llanfair-yng-Nghornwy.
Ar ôl ei farwolaeth, gadawodd Kyffin ran helaeth o'i gasgliad i'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Roedd hyn yn cynnwys amryw o weithiau celf ei hun ynghyd â gweithiau artistiaid yr oedd ef yn ei edmygu. Ynghyd â'i gasgliad, gadawodd dros £400,000 iddynt greu storfa penodol ynghyd â cyflogi staff i gatalogio a ddigido'r casgliad.
Yn 2008 cychwynnodd brosiect Cymynrodd Kyffin Williams. Mae'r casgliad yn cynnwys "1200 o weithiau ar bapur, 200 darlun olew a thros 300 o brintiau gwreiddiol yn darlunio tirlun a phobl Cymru; archif gynhwysfawr yn cynnwys gohebiaeth, dyddiaduron a llawysgrifau, ynghyd â grŵp mawr o ffotograffau a sleidiau".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Kyffin Williams, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.