Mae Bakasana (Y Garan) yn asana o fewn i ioga modern fel ymarfer corff a Ioga Hatha lle cedwir y breichiau'n syth.
Mae'r asana (neu osgo) Kakasana (Y Frân) yn hynod o debyg ond mae'r breichiau wedi'u plygu. Asana cydbwyso yw'r ddau, gyda phwysau'r corff ar y breichiau, y garddyrnau a'r dwylo, sy'n solad ar y llawr.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas cydbwyso |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw'r enwau ar yr asanas o'r geiriau Sansgrit बक baka ("garan") neu काक kāka ("brân"), a आसन āsana sy'n golygu "osgo, ystym" neu "siap y corff".
Er bod gwahanol ysgolion ioga'n defnyddio gwahanol enwau ar gyfer y asanas hyn, mae Dharma Mittra yn bendant iawn, gan wahaniaethu rhwng y ddau. Mae'n nodi, fod gan y Kakasana freichiau byr (fel coesau'r frân) a bod gan y Bakasana freichiau syth, hir (fel y coesau'r garan). Mae Light on Yoga gan BKS Iyengar (1966) yn disgrifio Bakasana'n unig, a hynny gyda breichiau syth. Yn Ioga Sivananda, mae Llyfr Ioga Cyflawn Darluniadol Swami Vishnudevananda o 1960 yn disgrifio'r Kakasana yn unig, gyda breichiau wedi'u plygu. Fodd bynnag, mae ymarferwyr Saesneg yn y gorllewin yn aml yn cam-gyfieithu'r Sansgrit "Bakasana" fel "Crow Pose".Belling, Noa (20 Chwefror 2008). The Yoga Handbook. New Holland Publishers. t. 159. ISBN 978-1-84537-935-3.Belling, Noa (20 Chwefror 2008). The Yoga Handbook. New Holland Publishers. p. 159. ISBN 978-1-84537-935-3.
Gellir dyddio'r asanas cydbwyso hyn i o leiaf y 17g pan gyhoeddwyd Hatha Ratnavali, lle mae Bakasana yn rhif 62 o'r 84 ystum y dywedir iddynt gael eu haddysgu gan Shiva.
MaeSritattvanidhi o'r 19g hefyd yn disgrifio ac yn darlunio'r Kakasana a'r Bakasana.
Mae'r amrywiadau'n cynnwys:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Bakasana (Y Garan), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.