Bwrdeistref ail fwyaf Gwlad yr Iâ yn ôl poblogaeth yw Kópavogur (IPA:ˈkʰoːupavɔɣʏr̥).
Saif i'r de o'r brifddinas, Reykjavík, ac mae'n rhan o Reykjavík Fawr. Ystyr yr enw yw cilfach llo morlo. Mae arfbais y dref yn cynnwys proffil eglwys Kópavogskirkja a llo morlo oddi tano.
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 39,810 |
Pennaeth llywodraeth | Ásdís Kristjánsdóttir |
Cylchfa amser | GMT |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Kópavogsbær |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Arwynebedd | 83,720,000 m² |
Uwch y môr | 8 metr |
Yn ffinio gyda | Garðabær, Reykjavík |
Cyfesurynnau | 64.1119°N 21.9°W |
Cod post | 200, 201, 202, 203 |
Pennaeth y Llywodraeth | Ásdís Kristjánsdóttir |
Preswyldref yw Kópavogur gan mwyaf ond mae ganddi ardal fasnachol a diwydiant hefyd. Mae adeilad uchaf Gwlad yr Iâ, Tŵr Smáratorg, wedi ei lleoli yng nghanol Kópavogur.
Mae'r dref yn bwysig yn hanes y genedl gan mai dyma oedd safle cyfarfod Kópavogur 1662. Dyma oedd y digwyddiad a welodd ymgorffori Gwlad yr Iâ yn llawn i mewn i wladwriaeth Denmarc-Norwy pan wnaeth yr Esgob Brynjólfur Sveinsson a'r cyfreithiwr, Árni Oddsson, arwyddo dogfen ar ran pobl yr Ynys yn cadarnhau rheolaeth monarchiaeth absoliwt Brenhinoedd Denmarc dros y wlad. Roedd hyn yn ystod cyfnod Monopoli Masnach Denmarc 1602 to 1787 a roddodd i Ddenmarc sofraniaeth lwyr dros Wlad yr Iâ.
Hyd at yr 1930au, prin iawn oedd poblogaeth Kópavogur, ond daeth y tir i'w defnyddio ar gyfer tai haf i boblogaeth Reykjavík. Gyda mudo poblo o'r cefn gwlad i Ranbarth y Brifddinas, tyfodd y dref ac ardal pentref wreiddiol Kópavogur.
Mae Kópavogur hefyd yn safle un o chwedloniaeth gyfoes Gwlad yr Iâ am yr huldufólk (corachod); ac mae'n ymddangos yn y ffilm 'Sumarlandið' o'r flwyddyn 2010, lle caiff y garreg Grásteinn ei phortreadu fel tŷ corachod yn Kópavogur.
Prif glybiau chwaraeon Kópavogur yw Gerpla, Breiðablik UBK a Handknattleiksfélag Kópavogs (HK). Yn 2010 cipiodd Breiðablik y bencampwriaeth bêl-droed wrth ennill Cynghrair y wlad am y tro cyntaf ac yn 2012 enillodd HK ei pencampwriaeth pêl-law (handball) cyntaf.
Kópavogur yw canolfan siopa fwyaf Gwlad yr Iâ, sef y Smáralind. Mae campws y maelfa yma yn cynnwys adeilad uchef Gwlad yr Iâ, Tŵr Smáratorg, a'r pumed adeilad talaf a'r adeilad talaf yn wlad. Mae Kópavogur hefyd yn bencadlys i nifer o gwmnïau, gan gynnwys Promens.
Poblogaeth Kópavogur | |||
---|---|---|---|
Blwyddyn | Preswylwyr | Fel canran o Boblogaeth Gwlad yr Iâ | |
1940 | 200 | 0,2% | |
1950 | 1.652 | 1,1% | |
1960 | 6.213 | 3,5% | |
1970 | 11.165 | 5,4% | |
1980 | 13.814 | 6,0% | |
1990 | 16.186 | 6,3% | |
2000 | 22.693 | 8,1% | |
2010 | 30.357 | 9,6% | |
2011 | 30.779 | 9,7% | |
Fynhonnell: Hagstofa Íslands (Ystadegau Gwlad yr Iâ) |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Kópavogur, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.