Gwyddonydd yn arbenigo mewn cemeg organig oedd y Dr John S Davies (7 Mehefin 1940 - 22 Ionawr 2016).
Magwyd yn Nhrelech, Sir Gaerfyrddin a bu farw ym Mhenlle'r-gaer, Sir Abertawe lle ymgartrefodd. Rhoddodd gryn wasanaeth i faterion gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg. Roedd hefyd yn gymwynaswr mawr i'r Gymraeg yn gyffredinol yn ei ardal.
John S. Davies | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mehefin 1940 Tre-lech, Llandudoch |
Bu farw | 22 Ionawr 2016 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cemegydd, academydd |
Graddiodd John Davies o Brifysgol Abertawe a bu'n gymrawd ymchwil yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT). Ei arbenigedd oedd peptidau cylch.
Ymunodd ag Adran Gemeg Prifysgol Abertawe yn 1964, cyn gorffen yno fel Uwch-ddarlithydd yn 2007. Yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol, bu John Davies yn Ddeon y Gyfadran Wyddoniaeth, ac yn aelod ar Gyngor y Gymdeithas Gemegol Frenhinol. John Davies oedd ysgrifennydd Cymdeithas Peptid a Phrotein Ewrop.
Cyfrannodd yn rheolaidd i gyhoeddiadau gwyddonol yn y Gymraeg (megis Y Gwyddonydd, Delta ac Atom) dros genhedlaeth gyfan. Bu'n feirniad Gystadleuaeth Gwyddonwyr Ifanc y Flwyddyn sawl tro. Enillodd brif wobr Erthygl Gwyddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau (2015). Derbyniodd Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg (2012) am ei wasanaeth i Wyddoniaeth a Thechnoleg yn y Gymraeg.
Bu'n aelod o fwrdd golygyddol cylchgronau'r Gwyddonydd, Delta, Atom a Gwerddon ac yn gadeirydd ac aelod gweithgar o bwyllgor rheoli'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol; yn ystod y cyfnod sefydlwyd adran Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n gadeirydd yr adran honno am flynyddoedd.
Bu gan John Davies ran allweddol yn yr ymgyrch i sefydlu Ysgol Gyfun Gŵyr yn ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf Abertawe, lle bu'n Gadeirydd y Corff Llywodraethol. Roedd yn gefnogwr brwd i bob agwedd o addysg Gymraeg. Roedd hefyd yn ysgrifennydd Eglwys yr Annibynwyr, Bethel Sgeti, Abertawe, am flynyddoedd lawer.
Roedd yn briod i Ann a bu iddynt ddwy ferch Eleri a Meinir.
Damcaniaeth y tamaid bach. Y Gwyddonydd 9, (1; Mawrth) 1971
Aspirin: y cymorth cyntaf. Y Gwyddonydd 13, (2) 50-51 (1975)
Eisteddfod Abertawe a'r Cylch, 1982. Y Gwyddonydd 9, (3; Gaeaf) 1982-1983
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John S. Davies (cemegydd), which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.