Awdur John Rowlands: Awdur o Gymru

Llenor ac academydd Cymraeg oedd Yr Athro John Rowlands (14 Awst 1938 – 23 Chwefror 2015).

John Rowlands
Ganwyd14 Awst 1938 Edit this on Wikidata
Trawsfynydd Edit this on Wikidata
Bu farw23 Chwefror 2015 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

Ganwyd John Rowlands ar fferm Tyddyn Bach ym mhlwyf Trawsfynydd ar 14 Awst 1938. Cafodd ei addysg yn Ysgol Bronaber ac Ysgol Sir Ffestiniog. Astudiodd am radd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor gan ennill gradd Meistr yno hefyd cyn mynd ymlaen i gwblhau doethuriaeth dan oruchwyliaeth yr Athro Idris Foster ym Mhrifysgol Rhydychen.

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Lle Bo'r Gwenyn, ym 1960. Dilynwyd hon gan sawl nofel ddadleuol, gan gynnwys Ienctid Yw 'Mhechod, a gyhoeddwyd ym 1965.

Yn ogystal â chyflawni ei waith fel awdur, bu John Rowlands hefyd yn gweithio fel darlithydd yn adrannau Cymraeg Coleg Y Drindod, Caerfyrddin, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Wedi ymddeol, parhaodd i weithio fel cynorthwyydd ar gyrsiau ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor.

Mae ei waith academaidd yn cynnwys golygu'r gyfres lenyddol Y Meddwl a'r Dychymyg Cymraeg, a sawl papur ymchwil. Roedd yn ffigwr amlwg fel beirniad llenyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu hefyd yn ysgrifennu erthyglau i'r cylchgrawn materion cyfoes Barn.

Caiff ei gydnabod fel "un o’r gwŷr llên mwyaf dylanwadol ei bresenoldeb a helaeth ei gyfraniad" yng Nghymru.

Nofelau

  • Lle Bo'r Gwenyn (1960)
  • Yn ôl i'w Teyrnasoedd (1963)
  • Ieuenctid yw 'Mhechod (1965)
  • Llawer Is na'r Angylion (1968)
  • Bydded Tywyllwch (1969)
  • Arch ym Mhrâg (1972)
  • Tician, Tician (1978)

Llyfrau academaidd

  • Priodas Waed (cyfieithiad o Bodas de Sangre gan Lorca (gyda R. Bryn Williams) (1977)
  • Writers of Wales, T. Rowland Hughes (1975)
  • Profiles (gyda G. Jones) (1981)
  • Cnoi Cîl ar Lenyddiaeth (1989)
  • Ysgrifau ar y Nofel (1992)
  • Y Meddwl a'r Dychymyg Cymraeg - (golygydd y gyfres)

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Awdur John Rowlands BywgraffiadAwdur John Rowlands NofelauAwdur John Rowlands Llyfrau academaiddAwdur John Rowlands CyfeiriadauAwdur John Rowlands Dolenni allanolAwdur John Rowlands1938201523 Chwefror

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

DaearegBretagneHedd WynAristotelesE. Wyn JamesYr EidalCharles AtlasIndiaHarry Partch2005LlyngesThis Love of OursAmwythigArabegReturn of The SevenJust TonyBeijingLa Ragazza Nella NebbiaB. T. HopkinsDinasY Weithred (ffilm)On The Little Big Horn Or Custer's Last StandFfilm llawn cyffroBreuddwyd Macsen WledigBugail Geifr LorraineYsgrifau BeirniadolCiRajkanyaGooglePen-y-bont ar Ogwr (sir)Anna VlasovaLos AngelesSybil AndrewsHottegagi Genu BattegagiGari WilliamsAwyrenMark StaceyMerthyrBrasilGwainMoscfaHollt GwenerPoner el Cuerpo, Sacar la VozTsieinaCantonegYnys GifftanSteffan CennyddAled Lewis EvansSafleoedd rhywLeonor FiniEnglynSex and The Single GirlThe Tin StarAngela 2Gwobr Nobel am CemegTywodfaenAnne, brenhines Prydain FawrCatrin o FerainNaturRhif Llyfr Safonol RhyngwladolY we fyd-eangBangorEagle EyeLoganton, PennsylvaniaYmdeithgan yr UrddTywyddEdward H. DafisCod QR🡆 More