Cerddor a botanegydd oedd John Lloyd Williams (10 Gorffennaf 1854 – 15 Tachwedd 1945).
Cafodd ei eni yn y Plas Isa, Llanrwst, a oedd yn gartref ar un adeg i William Salesbury. John oedd yr hynaf o saith plentyn Robert a Jane Williams Ar ôl cael addysg elfennol yn ysgol y "Britis" yn Llanrwst enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Normal, Bangor. Yn 1875 fe'i penodwyd yn brifathro ysgol newydd Garndolbenmaen, ac yn 1893 aeth i'r Royal College of Science yn Kensington gan astudio dan yr Athro John Bretland Farmer. Yn 1897 cafodd swydd darlithydd cynorthwyol ym Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Penodwyd ef yn Athro Botaneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth yn 1915. Priododd Elizabeth Jones, merch Emanuel ac Ann Jones, Tŷ Lawr, Cricieth, a bu iddynt ddau fab, Idwal a Geraint. Bu farw 15 Tachwedd 1945 yn Peacedown St. John, Caerfaddon, Gwlad yr Haf, a chladdwyd ef yng Nghricieth.
John Lloyd Williams | |
---|---|
Ganwyd | 10 Gorffennaf 1854 Llanrwst |
Bu farw | 15 Tachwedd 1945 Caerfaddon |
Man preswyl | Garndolbenmaen, Kensington |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | botanegydd, athro, ysgrifennwr, cerddor |
Cyflogwr | |
Cysylltir gyda | Rhedynen Cilarne |
Yng Nghymru, mae'n debyg ei fod yn fwyaf enwog am ei waith yn casglu hen alawon gwerin ac ef sefydlodd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a golygodd ei chylchgrawn o 1909 hyd at ei farwolaeth yn 1945. Cyhoeddodd sawl trefniant o ganeuon gwerin a phedair cyfrol o hunangofiant. Bu ei gyfansoddiad boblogaidd Aelwyd Angharad (1899) yn ddylanwadol iawn.
Roedd John Lloyd Williams yn fachgen ifanc pan oedd dadl esblygiad yn ei hanterth yn dilyn cyhoeddi The Origin of Species Charles Darwin. Roedd y 19g hefyd yn gyfnod datblygu yr astudiaeth o ddosbarthiad daearyddol planhigion. Bu ei gyfraniad at faes astudiaethau gwymon o bwys rhyngwladol. Yn 1897 ymunodd â staff Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn ddarlithydd llysieueg cyn cyfnod gyda’r Bwrdd Amaethyddiaeth ym Mangor ac yna symud i Gadair Llysieueg Prifysgol Cymru Aberystwyth o 1915 i 1925. Tra ym Mangor, bu gwymon glannau’r Fenai a’u hymateb i lanw a thrai rhythmig y culfor hwnnw yn ysbrydoliaeth iddo. Datrysodd fanylion cylch bywyd y gwymon brown cyffredin a chodog Fucus. Mae’r gwaith hwn i’w weld o hyd yng ngwerslyfrau’r unfed ganrif ar hugain. Yn 1904-05 ymddangosodd ei waith enwocaf ar Dictyota, math arall o wymon brown sy’n nodweddiadol am eu rhythmau ffisiolegol. Parhaodd i gyhoeddi trwy gydol ei yrfa, er enghraifft ar gylch bywyd y gwymon mawr, Laminaria. Roedd y gwaith hwn ymhell ar flaen ei amser ac yn berthnasol iawn i waith cyfredol ym maes clociau biolegol. Yn ôl pob sôn, ‘roedd hefyd yn addysgwr penigamp ac yn hoff o dywys dosbarthiadau o fyfyrwyr ar hyd moelydd Eryri. Yn ystod y teithiau hyn daeth daeth ei ddau gariad ynghyd wrth iddo hefyd gasglu alawon a chaneuon wrth alw heibio’r tyddynnod. Yn 90 oed derbyniodd anrheg o ffon gerdded. “Bydd hwn yn ddefnyddiol pan fyddaf yn hen,” oedd ei ymateb.
Daeth John Lloyd Williams o hyd i un o redynau prinnaf Cymru sef yr hyn a elwir heddiw yn T. speciosum. Yn Saesneg gelwir hi'n Killarney fern, a bristle fern. Yr enw Cymraeg yw rhedynen wrychog neu'r llugwe fawr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Lloyd Williams, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.