Yn enedigol o Abertawe roedd John Gwyn Jeffreys (18 Ionawr 1809 – 24 Ionawr 1885) yn naturiaethwr ac fe'i cydnabyddwyd yn rhyngwladol fel arloeswr glanhau dwfn y môr (Deep Sea Dredging).
Ei arbenigedd oedd malacoleg a chregynneg, sef bioleg molwsgiaid a chregyn.
John Gwyn Jeffreys | |
---|---|
Ganwyd | 18 Ionawr 1809 Abertawe |
Bu farw | 21 Ionawr 1885 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | malacolegydd, bargyfreithiwr, newyddiadurwr |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Cymrawd o Gymdeithas Ddaearegol Llundain, Cymrawd Cymdeithas y Linnean |
llofnod | |
Yn Llundain cafodd ei dderbyn i'r bar, fel bargyfreithiwr. Ond trodd tuag at fioleg gan wneud llawer o waith ger Ynysoedd Shetland ac arfordir yr Alban. Bu farw yn Llundain yn 1885.
Mae ei gasgliad gwerthfawr o gregyn wedi eu prynu bellach gan William Healey Dall (1845-1927) ar gyfer y 'National Museum of Natural History', Llundain. Sgwennodd nifer o lyfrau gan gynnwys: British Conchology, or an account of the Mollusca which now inhabit the British Isles and the surrounding seas (cyfres o 5 llyfr, 1862–1865).
Ei ŵyr ydy'r ffisegwr enwog Henry Gwyn Jeffreys Moseley.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article John Gwyn Jeffreys, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.